Skip to main content

m w wìfùmmwWm a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf,—822. AWST, 1890. Cyf. Newydd.—222. AC ATHRAWIAETH YR IAWN. GAN Y PARCH. E. CYNFFIG DAVIES, B.A. Cofrestrir Clement o Rufain yn mysg y penaf o'r tadau apostolaidd. Wrth yr ymadrodd tadau apostolaidd y deallir y dosbarth nodedig hwnw o ysgrifenwyr Cristionogol a berthynent i'r oes apostolaidd. Bu gweithiau rhai o honynt am dymhor hir yn cael eu parchu fel Uyfrau ysbrydoledig; ond cyn y bumed ganrif yr oeddynt wedi eu cau allan o'r Testament Newydd. Ysgrifenwyr ydynt fuont o dan addysg yr apostolion, neu o'r hyn lleiaf mewn cyfle o ran ainser i fod yn wrandawyr a dysgyblion iddynt. Cyfrifir yn gyífredin fod naw o ysgrifenwyr yn y gyfres hon sydd yn ymylu, o ran amser ac ysbryd, ar gyfres ysgrifenwyr y Testament Newydd; sef Clement, Ignatius, Quadratus, Papias, Barnabas, Hermas, Polycarp, a dau ypgrifenwr dienw. A sylwyd fwy nag unwaith fod rhifedi y tadau duwiolfrydig hyn yn union yr un faint a nifer ysgrifenwyr y Testament Newydd; sef Matthew, Marc, Luc, Ioan, Pedr, Paul, Judas, lago, ac ysgrifenydd anadnabyddus y Llythyr at yr Hebreaid. Mae y tadau hyn yn llanw lle rhyfeddol o bwysig yn hanes yr eglwys, nid ar gyfrif gwerth llenyddol a meddyliol eu hysgrifeniadau, ond ar gyfrif eu safle fel y tô cyntaf o awduron welodd y byd ar ol awduron hynotaf pob oes. Priodol y dywed y Ffrancwr dysgedig Pressense: " Dylid edrych ar y tadau apostolaidd, nid fel ysgrifenwyr mawr, ond fel cymeriadau hanes- yddol mawr." Maent yn rhagorol fel tystion, ac nid fel barnwyr; oblegid cyflwynant dystiolaethau anmhrisiadwy ar feusydd beirniadaeth destynol y Testament Newydd, hanesiaeth eglwysig, a tharddiad heresiau pob oes hyd heddyw. Clywsom rywrai yn cwyno fod rhai o esbonwyr blaenaf yr oes wedi gadael egluro y Testament Newydd, a myned i esbonio y tadau apostolaidd yn lle hyny; ond heb ystyriaeth briodol y cwynid, oblegid y mae yr esbonwyr hyny wedi cyflawni y gwasanaeth uchaf i feirniadaeth Ysgrythyrol wrth dreulio eu blynyddoedd a'u nerth uwchben gweithiau y tadau. Dylid gochel dau eithafion yn y peth hwn: ni ddylid gyda'r Pabyddion osod awduron Cristionogol y canrifoedd cyntaf ar yr un tir a'r Ysgrythyr ysbrydoledig, a chanlynir y Pabyddion yn hyn i fesur gormodol gan Úchel Eglwyswyr Prydain; ac ar y llaw arall, nis gall yr un meddwl