Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr.' Hen Gyf.—819. MAI, 1890. Cyf. NbwyDD,—219. €ẁí £« Cgfcmtio fEftaglmttaŵî** gan y parch. james charles, croesoswallt. " Àm hyny na ofelweh, gan ddywedyd, Beth a fwytawn ? neu Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn ? (canys yr holl bethau hyn y mae y Cenedloedd yn eu ceisio), oblegid gwyr eich Tad nefol fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Na ofelwch gan hyny dros dranoeth: canys tranoeth a ofala am ei bethau ei hun. Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun."—Mat. vi. 31—34. Tueddir dynion yn barhaus i fyned i un o ddau eithafion yn eu syniadau am y byd hwn a'i bethau. Ar un llaw, ceir y Pessimists, y rhai sydd yn wastad yn edrych ar yr ochr dywyll i bethau. Nid oes dim ond drwg yn y byd yn ol credo y dosbarth hwn. Gellir rhestru yn eu plith holl ganlyn^yr Buddha, y dysgawdwr crefyddol mwyaf enwog yn y byd Paganaiddarlawer ystyr. Rhifa y Buddhiaid tua thri chan' miliwn. Efengyl anobaith a gredir ganddynt, a chael eu gwaredu o'r byd drwg presenol er ymgolli yn Nirvana, yw y nefoedd a ddysgwylir ganddynt. 0 ran ysbryd ceir llawer o rai tebyg iddynt yn ein gwlad ein hunain. Mae y byd yn ddrwg; masnach yn ddrwg, yr amser yn ddrwg—pob peth yn ddrwg, yw eu hiaith yn was- tadol. Creda rhai mai methiant oedd creadigaeth y byd hwn, yn enwedig dyn; yn ol eu barn hwy dyn yw Uunder mawr gwaith y crëu, a thybiant pe buasai Duw yn myned i ail ddechreu, a chrëu y byd a'r nefoedd, y buasai y ddaear yn wahanol iawn i'r hyn ydyw, a dyn yn fod hollol wahanol i Adda. Y mae y ddysgeidiaeth hon yn taflu sarhad ar ddoethineb Duw, fel pe na wybuasai efe beth oedd yü ei wneud pan yn dwyn gwaith y crëu i fod. Buasai yn werth i'r dosbarth hwn ddarllen un frawddeg yn Genesis, yr hon a geir ar ol gwaith y naill ddiwrnod ar ol y llall, " A Duw a welodd mai da oedd." Er fod dyn wedi syrthio, a'r ddaear wedi ei llanw â thrigfanau trawsder, eto credwn pe buasai Duw yn dechreu o'r newydd, y buasai yn crëu y ddaear yn hollol fel y mae, ac yn crëu dyn yr un ffunud ac Adda, a buasai yr hanes yn Genesis yn hollol gywir am y byd newydd, bob gair o hono. Os ydyw Duw yn anfeidrol ddoeth, nis gallai fod yn wahanol. Gan byny, os Duw a greodd y byd, ac os ydyw yn cael ei lywodraethu ganddo, nis gall dysgeid- iaeth y dosbarth a nodwyd fod yn wir. Ar y Uaw arall ceir yr Optimists, dosbarth yr eithafion gwrthgyferbyniol —dynion yn credu fod pob peth yn dda. Yn ol dysgeidiaeth y dosbarth * Y mae yr ysgrif ragorol hon yn rhan o gyfrol sydd ar gael ei chyhoeddi gan yr ftWdwr,—Gol.