Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—S18. EBRILL, 1890. Cvf. Newydd.—218. P«Htftîîwa* Etíîrtrniacííî a fcufoinijbbiasííî. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A. YSGMF II. DywEDiAD cyrhaeddfawr oedd hwnw o eiddo Protagoras gynt, mai dyn oedd mesurydd poh pcth. Cydnabyddir bellach fod y sylw yn cynwys mwy o feddwl nag a gysylltai yr athronydd hwnw ag ef. Á chyda 'ílaw, ai nid yw hyn yn un o'r proíion goreu o ddatguddiad? Beth all brofi yn egluracli weithgarwch y Rheswm Anfeidrol na'r ffaith gydnabyddedig fod dynion, o bryd i bryd, yn llefaru gwirioneddan na welant hwy eu hunain na'u cyd- oeswyr eu llawn ystyr a'u gwerth? Ymddengys y cyfryw awdwyr felly yn fwy o gyfryngau i'r Meddwl Anfeidrol ymddatguddio drwyddynt nag fel gwir gynyrchwyr y syniadau y rhoddant amlygiad iddynt. Ein hamcun yn yr ysgrif hon yw cyfeirio at y ffaith fod yn rhaid i'r athronydd a'r duwinydd apelio at natnr feddyliol a moesol ac ysbrydol dyn fel y llys apel, a'r awdurdod uwchaf, yn eu hymchwiliadau. Nid yw hyn i arwain i anwybyddu natur ar un llaw, a Duw ar y llaw arall; ond cyfeiria at natur y dyn ei hun fel yr allwedd i egluro y naill a'r llall i'r person hwnw. Testun ymchwiliad yr athronydd, a'i grynhoi i ychydig eiriau, yw posiblrwydd gwyhodaeth. Ymhola a ydyw yn bosibl i ddyn ddyfod i wybod gyda sicrwydd am rywbeth heblaw ei deimladau ef ei hun a'r argraffiadau a dderbynia oddiwrth wrthddrychau oddiallan iddo? A oes gan y meddwl hawl i dynu y casgliad fod yna wrthddrychau yn cyfateb i'r argraffiadau y mae ef yn ymwybodol ei fod yn eu teimlo? Gwaith yr athronydd felly yw ceisio camu o diriogaeth y teimladau mewnol at wrthddrychau oddiállan iddo, a mynu sicrwydd am wirioneddolrwydd (reality) y naill fel y lla.Il. Nid oes modd amheu bodolaeth argraffiadau a'u holyniad yn yr ymwybydd- iaetb. Y dasg yw medru pontio yr agendor rhyngddynt a'r byd niawr oddiallan i ni. Os gwneir hyny o gwbl, credir y rhaid iddo gael ei wneud drwy ymchwiliad i gyfansoddiad a chynwys profiad ymwybyddol dyn, a cheisio dangos fel y mae ymwybyddiaeth yn darganfod perthynas gyfun- drefnol a rheolaidd a pharhaol {permanent) yn ffurfio y peth elwir genym yn fyd trefnus (cosmos). Yohwaneger at hyn y gred mai yr un ymwybydd- iaeth ag sydd yn gweithio yn a thrwy y cyfryw gyfanfyd trefnus, sydd hefyd yn adgynyrchu ei hun yn yinwybyddiaeth pob person dynol. Hyn fel y credir sydd yn cyfa:)Soddi gwiLhddrycholrwydd yr argraffiadau. Dyna rydd gyfrif boddhaol am fodolaeth gwrthddrychau yn cyfateb i'r argraff- iadau; mewn geiriau eraill, hyn gyfansodda reality ein gwybodaeth am