Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A'R HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—817. MAWRTH, 1890. Cyf. Newydd.—217. "Y mae genym ni fecldwl Crist." GAN Y PARCH. J. MACHRETH REES, PENYGROES. Y mae yr Apostol Paul yn cloi i fyny yr ail benod o'r llythyr cyntaf at y Corinthiaid—penod sydd yn ei brofì yn feistr trwyadl mewn ymresymiad— gyda'r frawddeg gynwysfawr, " Y mae genym ni feddwl Crist." Yn ei chysylltiad uniongyrchol y mae y frawddeg yn atebiad i'r gofyniad, '" Pwy a wybu feddwl yr Arglwydd ?'' I fod yn atebiad cywir rhaid iddi gynwys dau wirionedd—fod Crist yn gwybod meddwl yr Arglwydd, a bod Paul a'i gydgredinwyr, drwy fod meddwl Crist ganddynt, wedi dyfod i feddiant o'r unrhyw wybodaeth. Ond er fod yr apostol yn dysgu yn eglur fod credin- wyr yn meddu y wybodaeth, y mae lle feallai i amrywiaeth barn yn nghylch j2?afodd y deuant i feddiant o honi. Dibyna y pafodd ar pa beth a olygai wrth "feddwl Crist." Dywed rhai fod y gair yn golygn meddyliau; hyny yw, y dadguddiad, y dystiolaeth a roddes Crist am fwriadau a threfniadau grasòl Duw i gadw pechadur; ac mai o herwydd fod y datguddiad hwnw ganddynt y mae credinwyr yn gwybod "ineddwl yr Arglwydd." Yr hyn sydd yn milwrio yn erbyn yr esboniad yna ydyw ei fod yn rhoddi i'r gair a gyfìeithir meddwl ystyr wahanol i'r ystyr sydd iddo yn mhob cysylltiad arall lle y defnyddir ef gan Paul. Sonia mewn un man am Dduw yn rhoddi rhyw bobl i fyny i "feddwl anghymeradwy." Hysbysa mewn man arall ei fod ef ei "hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw." Geilw ar y saint i beidio cydymffurfio â'r byd hwn, eithr i ymnewidio "drwy adnewyddiad eu meddwl;" a dywed am yr halogedig a'r di-ffydd, i'r rhai nid oes dim yn bur, "mai halogedig yw hyd yn nod eu meddwl a'u cydwybod hwy." Yr un yw y gair yn yr holl gysylltiadau hyn ag yn yr ymadrodd "tneddwl Crist," ac y mae yn eglur ei fod yn arwyddo, nid meddyliau, ond y meddwl yn syml, y gallu eneidiol, deallol, a moesol mewn dyn. Ac y mae y defnydd cyffredin o'r gair yn myned yn mhell i brofi yr ystyr a ddylid roddi iddo yn mhob cysylltiad. Ond cyn dytod i farn derfynol ar y mater, byddai yn briodol edrych i mewn i nodwedd yr ymresymiad yn y paragraff sydd yn cael ei gloi i fyny â'r frawddeg, "y mae genym ni feddwl Crist." Yr oedd athronwyr doeth- ion Corinth yn ystyried mai eithafìon ynfydrwydd ydoedd "pregethu Crist wedi ei groeshoelio." Iddynt hwy yr oedd y syniad o ddal i fyny Iuddew croeshoeliedig fel Gwaredwr dynolryw ynffolineb perffaith, mor annheilwng o Dduw fel nad oedd bosibl tybied fod Duw wedi ordeinio hyny. "Ceisio