Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen GYF.-816. CHWEFROR, 1890. Cyf. Newydd.—22. ("A STÜDY IN CHARACTER.") GAN ELFED. Yn mysg chwedlaa crefyddol yr India ceir un yn son am Brahma yn bendithio'r mynydd. Achwynai'r ìnynydd mor dlawd oedd ei wedd, ac mor arw, pan gododd gyntaf ei ben i'r nef. Yn ei gysgod golwg hyfryd oedd ar ddyffrynoedd teg ar hyd glanau afonydd, a bryniau gwyrddlas yn ymfalchio ar brenau blodeuog; ond oer, a garw, a difendith oedd crib y mynydd. Clywodd Brahma y sibrwd cwynfanus, ac atebodd—"I ti y perthyn glas y nefoedd, a goleuni cynar y wawr, ac yn dy fynwes y gor- phwysa cwmwl ieuengaf, gwynaf yr haf." Ac nid yw y chwedl ond dameg. Yn mhob oes ceir meddyliau prophwydol yn ymgodi fry uwchlaw'r cyffred- in—ysgrifenwyr barddoniaeth Duw, efengylwyr oes newydd, a chreawdwyr cyfnodau trwy rad y nef. ' Uwchlaw ei oes yr oedd Ioan Fedyddiwr, heb neb am hir amser yn caru ei genadaeth danllyd; yn alltud crefyddol, yn gorfod byw yn mhell oddi- wrth ysbryd ei oes. Ond derbyniodd ei wobr. Efe oedd gweledydd y wawr, a'i enaid yn uchel yn wybren las yr efengyl, a bu cymylau gwynion yn gorphwys arno. ]. Nid am ddim y cafodd Ioan ei neges o'r nef. Heb dalu, ni cha neb gerdded o flaen y Brenin, i gyhoeddi ei fod ar ddyfod. Rhaid rhoddi gwaith mawr am genadaeth fawr. Nid yn y fyfyrgell ddioglyd y breudd- wydiodd Bunyan am Daith y Pererin. Bu raid i Milton gerdded trwy'r tân cyn gallu canu am gynghor Duw, a rhyfel angylion, a Pharadwys Goll. Yr oedd y gadwyn yn crogi wrth fraich Paul pan ysgrifenai rhyw gydymaith ei lythyron santaidd drosto. Rhaid talu am bob neges mawr, am bob pregeth ddwyfol. Pan ddihunodd enaid Ioan Fedyddiwr, yr oedd crefydd yr oes yn sychlyd a marw. Yr oedd mwy na digon o ffurfiau duwiol, o deganau seremoniol, o swn addoli. Ni all dim foJ yn fwy annyoddefol i enaid effro na dwndwr duwiol heb ddim sylwedd. Nid rhyfedd i'r Rhag- flaenor efengylaidd adael byd yr offeiriad a'r gwagedd am ddiffaethwch Judea. Yr oedd anghyfanedd-dra nafcur yn fwy caredig nag anghyfanedd- dra yabrydol yr oes. Gwell oedd bod gyda'r " grug yn yr anialwch " am dymhor, na byw yn nghanol eneidiau diffrwyth. Pwy all ddyfalu pa ym- drech meddwl fu i Ioan, cyn penderfynu chwilio am neges y nef wrtho ei hunan mewn trigfanau anial? Dywed Livingstone fod y boen o edrych ar drueni dynion a'r erchylldra moesol yn nghanolbarth Affrica, yn mron a'i