Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

19 ; GAN MR. W. R. OWEN, LIVERPOOL. III. Ar y dydd cyntaf o Chwefror, 1837, yrnsefydlodd y Parch. William Rees, cyn nyny o Fostyn, yn weinidog eglwys Lôn Swan, yn Ninbych, ac ni fu yno nemawr o wythnosau heb ífurfio barn uchel am gymeriad a galluoedd Thomas Roberts, a phenderfynu fod iddo amgenach cenadwri yn y byd na threulio ei amser yn ngefail un gôf. Nid yn unig yr oedd wedi rhoddi profion diamheuol odalent yn mhell uwchlaw y cyffredin o'i gyfoedion, ond yr oedd ei fywyd tawel, ei ymarweddiad dichlyn, ei dueddfryd fyfyrgar, a'i gydymdeimlad âg ordinhadau ty Dduw, yn ei gymhwyso mewn modd arbenig i waith y weinidogaeth. Ac o ran hyny, i'r weinidogaeth yr oedd yr hen bobl yn neillduo pob bachgen gobeithiol o'r bron. Yr oedd yn rhaid cael cwrs o addysg arbenig i fyned yn feddyg, neu yn gyfreithiwr, ac addysg ni roddid i blant y dosbarth gweithiol. Ystyrient hefyd nad oedd eisieu cymhwysderau pwysig at unrhyw grefffc, ac mai gwasfcraff ar dalenfcau naturiol bachgen fuasai iddo eu defnyddio mewn unrhy w alwedigaefch fas- nachol; yn yr hyn beth y mae llawer o gyfeiliornad yn ffynu hyd yr amser- oedd goleuedig hyn. Ar yr egwyddor hon mae masnach yn Nghymru wedi dyoddef colledion difrifol, a cnynulleidfaoedd parchus wedi eu gosod o dan bënyd trwm o herwydd andwyo seiri, a chryddion, a gofaint llwyddianus a defnyddiol, i'w gwneud yn bregethwyr truenus a diíudd. Ond, o'r ochr arall, feallai fod hyn yn cyfrif am ffaith sydd yr un mor sicr, ac yn llawer pwysicach, sef fod Cymru yn ystod y triugain mlynedd diweddaf wedi cysegru hufen ei phoblogaeth i wasanaeth y pulpud, ac nas gall un genedl arall yn y byd ymffrostio mewn gweinidogaeth mor nerthol, mor efengyl- aidd, acmor fendithfawr; gweinidogaeth yn yr hon y mae gras wedi cyflawni diffyg diwylliant, sel santaidd wedi gwroli ei deiliaid feì rhai yn gweled yr Anweledig, a chyffyrddiad marworyn oddiar allor yr Hollalluog wedi peri i'w gwefusau draethu goludoedd efengyl gras mewn hyawdledd cysegredig ac anorchfygol. Ac yr oedd craffder a doefchineb ymarferol Mr. Rees yn ei arwain i farnu mai i'r dosbarth diweddaf y perthynai Thomas Roberts. Wrfch edrych arno o'r safle bresenol nid oes amheuaeth na fuasai efe yn gwneud cyfreithiwr llwyddianus, neu athraw medrus, neu olygydd llenyddol diail; credaf fodynddo gymhwysderau arbenig i bob un o'r tri chyfeiriad hyn. Ond yn sicr, yr oedd eglwys Dinbych yn gwneud y peth doethaf wrth ei anog i'r weinidogaeth. Nis gwn pa bryd y dechreuodd bregethu am y tro cyntaf, ond y mae genyf sicrwydd ei fod wedi ymgymeryd â'r gwaith yn nechreu haf 1837, pan yn un ar hugain oed. Parhai i ddilyn ei alwed- igaeth fel gof, gan roddi ei holl oriau hamddenol i fyfyrio, am ddwy flynedd neu ragor, a phregethu yma ac acw pan elwid am ei wasanaeth. Bu Mr. Rees yn hynod garedig wrtho; cymerai ddyddordeb tadol yn ei achos, ac yr oedd yn egniol dros ben i rwyddhau ei amgylchiadau, ac i hyrwyddo ei lafur. Bu yn ymddyddan â Mr. Williams o'r Wern yn ei gylch, cafodd fendith a chynorthwy y seraph hwnw iddo, a chanmolai ef wrth holl weini- dogion yr enwad; nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneud drosy preg- efchwr ieuanc, ac â mawr ofal calon ddidwyll, dj^ner, a doetb, y gofalai am dano. Yr oedd ganddo yntau yr ymddiried mwyaf trylwyr yn marn Mr.