Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.-789.] TACHWEDD, 1887. [CrP. Newydd-189. Mhîgaiaìrait Engenríîŵttíl YN NGLYN A'R ADDOLIAI) CYHOEDDUS YN MYSG Y CYMRY. GAN Y PARCII. DAYID ROBERTS, WREXHAM. (Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Dinbych a Fflint yn Nhreffynon.) Mae yn destun diolch i ni fod cyfarfodydd addoli yn meddn gafael eto ar ein cenedl. Y mae yr Efengyl, trwy drugaredd, heb golli ei swyn i'r Cymry. Mewn rhyw bethau, yn neillduol i'elly mewn rhai manau, yr oedd y Cymry yn rhagori ar eu cymydogiony Saeson yn eu harferiadau cyhoeddus yn nglŷn â'u cynulliadau crefyddol. Cyrchent o bellder ffordd i'w haddol- dai arferol. Nid ystyrient yn un orchest nac aberth i deithio rhyw dair neu bedair milldir, ac yn fynycli fwy o ffordd na hyny, dair gwaith y Sabbath i babell eu cyfarfod. Nid arbedent, ac ni chwynai eu traed, er cael sefyll o fewn pyrth dinas eu cyfarfod; a melus y cydgyfrinachent pan rodient i dŷ Dduw yn nghyd. Rhaid myned a'r capel at y gynulleidfa, neu ni cheir cynulleidfa i'r capel, yn mysg ein cyniydogion, ac ysywaeth mewn rhai parthau o'n gwlad ninau, ac nid cymaint yw y llawenydd a am- lyga llawer ardal pan ddywedir wrthynt fod ty yr Arglwydd yn dyfod atynt aga deimlid gan yr hen bererinion gynt pan wahoddent eu gilydd yn mlaen y cwm, yn blygeiniol, gan ddywedyd, " Awn i dŷ yr Arglwydd." Y teulu cyfan yn myned—y gwr, a'r wraig, eu mab a'u merch, y gwasanaethwr a'r wasanaethferch, a'r dyeithr-ddyn a fyddai o fewn eu pyrth. Ymddangosai pob un yn Seion, ac nid rhyw gyfran o'r teulu yn myned i addoli dros y cwbl, fel ar y dydd arall rhyw un yn myned i'r farchnad i farchnata dros y cwbl. Clywais Sais yn datgan ei syndod ef a'i gydymdeithion, yn ystod eu hymwehad â Chymru, pan alwasant heibio i amaethdy ar foreu Sabbath, ac er curo yn methu cael neb i'w hateb; erbyn ymholi yn cael ar ddeall mai wedi myned i'r capel yr oedd yr holl deulu! Teimlent, fel meibion Israel gynt, y gallent fyned i ymddangos gerbron yr Arglwydd, ac " na chwenychai neb eu tir," na dim o'u heiddo, tra yn myned i addoli eu Duw. Aent felly drwy bob math o dywydd, heb ddal ar y gwynt, nac edrych ar y cymylau, pa un bynag ai gwynt ai gwlaw, gwres ai oerni, niwl ai eira, goleuni ai tywyllwch; nid oedd dim a'u hatalient i'r cysegr. Golygfa ddyddorol ar nosweithiau tywyll yn y gauaf ydoedd gweled yn mhob cyf- eiriad, yn ein cymoedd anghysbell, y lanternau yn llewyrchu yn nwylaw y pererinion wrth ddychwelyd adref o'r cyfarfod gweddi, y gyfeillachgrefyddol, neu y bregeth, nes gwneud i chwi feddwl am oleuni y byd yn llewyrchu gerbron dynion, nes eu cymhell i ogoneddu eu Tad, yr hwn sydd yn y