Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr. unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—786.] AWST, 1887. [Cyf. Newydd—186. GAN Y PARCH. W. EVANS, ABERAERON. "Oblegid megys trwy anufudd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechadur- iaid ; felly trwy ufudd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn. Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd : eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor- amlhaodd gras."—Rhuf. v. 19, 20. Mae perthynas pechod cyntaf Adda â phechadurusrwydd yr holl deulu dynol, a chysylltiad hwnw â theyrnasiad cyffredinol marwolaeth, yn cael eu cymeryd yn ganiataol gan yr apostol yn y bennod hon. Dygir hyn yn mlaen fel ffeithiau profedig. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn yn gymaint a phechu o bawb." Nid oes dim yn amlycach na bod dynolryw mewn cyflwr pechadurus, a bod pechod wedi effeithio yn fawr er eu hannedwyddwch. Yr amcan mewn golwg yma yw dangos cyf- addasrwydd trefn Duw, trwy Iesu Grist, i gyfarfod cyflwr y byd trwy bechod. Cawn yma olwg ogoneddus ar waith Crist yn ngwyneb y drygau a'r anfanteision y mae y teulu dynol yn ddarostyngedig iddynt. Dangosir yma, nid yn unig fod trefn gras yn gyfaddas ar gyfer dyn yn ei sefyllfa ddirywiedig, ond y bydd ei hangen ar "bob dyn hyd ddiwedd amser. Ni ddianc neb pwy bynag rhag effeithiau yr un pechod hwnw a ddygodd farn condemniad ar hiliogaeth y dyn cyntaf. Nid dygwyddiad yw fod dynion yn bechaduriaid, ac ni ddygwydd byth i un dyn fod yn ddiangen am achubiaeth. Yr oedd gan Grrist, wrth roddi ei hun yn iawn dros bechod, olwg ar bawb yn ddiwahaniaeth: " Efe a brofodd farwolaeth dros bob dyn." Darfu i'r un pechod cyntaf luosogi yn fawr ar waethaf pobpeth, ond gras Duw yn Nghrist. Methodd deddf osod atalfa arno; yn hytrach, ei amlhau a wnaeth, trwy ei ddwyn i fwy o gyhoeddusrwydd ac amlygrwydd, a thrwy roddi achlysur i'w luosogiad. " Hi a ddaeth i mewn fel yr amlhai pechod." Trwy hyn, rhoddodd achlysur hefyd i amlhad gras. Sylwn— I. Ar y dyn cyntaf, a'i berthynas a chwymp dynoliaeth. 1. Yr oedd Adda yn dad naturiol yr holl deulu dynol. Bodolai y natur ddynol yn ei pherffeithrwydd ynddo ef, a thrwyddo ef meddiana pawb yr un natur. Mae pawb yn perthyn yr un mor agos iddo ef—yr olaf o'i hil- iogaeth fel y cyntaf. Cyfrifìr perthynas deuluaidd yn gyffredin yn agos neu bell yn ol agosrwydd neu bellder amser. Nid yw amser yn gwanhau nac yn pellhau ein perthynas â'r dyn cyntaf. Mae ei berthynas ef â'i hil- iogaeth yn gyffelyb i berthynas pren â'i ganghenau. Mae yr holl ganghenau yn perthyn yr un mor agos i'r gwreiddyn, ac yn derbyn oddiwrtho eu ffurfiau a'u hunrhywiaeth. " Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyneb y ddaear." Pa wahaniaethau bynag, yn