Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 784.] MEHEFIN, 1887. [Cyf. Neayydd—184. Cíjhraremm CCgflfrebttwI % ^gfcbtau fjgu a'u ^fílaunmfc, GAN Y PARCH. W. THOMAS, WHITLAND. "A'r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwareu." Exod. xxxü. 6. Geiriad cyntaf y niater a roddwyd i mi yn Llanybri oedd " Difyrwch cyffredinol y dyddiau hyn, a'u dylanwad." Ar ol yr ymddyddan yn nghynadledd Cyfarfod Chwarterol Trelech, newidiwyd y geiriad i "Chwar- euon cyffredinol y dyddiau hyn a'u dylanwad." Bydd yn anmhosibl i mi ysgrifenu ar y naill heb gynwys y llall. Yingordedda y difyrwch a'r chwareuon yn hollol anwahanadwy. Clolyga chwareu miloedd Israel wrth odre Sinai ar ol gwledda ar yr aberthau offrymasant i'r "llo tawdd," y canu, y bloeddio, a'r dawnsio nodweddai y gwersyll. Y mae ystyr y gair chwareu yn y gwreiddiol yn profi fod yn bosibl fod trythyllwch—anfoesoldeb annuwiol —yn ychwanegol yn y gogoneddiad annymunol oedd ar y gau-dduw. Nid wrth droed Sinai yn unig y mae chwareu pechadurus wedi bod ar ol gwledda ar fwrdd Duw. Nid wyf yn golygu wrth yr awgrym uchod fod pob math o chwareu yn bechadurus. Na, y mae chwareuon diniwed, a chwareu rhinweddol mewn canlyniad. Y mae chwareu yn naturiol. Y mae cymhelliadau chwareuol yn y natur ieuanc yn mhob oes. Gwelir hyn yn aralwg mewn creaduriaid direswm, yn enwedig cyn d'od i wybod trwy brofiad am anhawsderau a chwerweddau y bywyd anifeilaidd. Edrychwch ar y ci, yr ebol, y gath, yr oen, y llo, a'r llew bychan, nis gallant fod yn llonydd. Mynant chwareu â rhanau o honynt eu hunain os na chant rywun i chwareu â hwynt. Y mae y gor- ddigrifwch hwn ar lawer tro wedi cynhyrfu tymherau yr hen famau profiadol. Y fath swm o gymhelliadau chwareuol sydd mewn plant bychain. Daw hyn i'r golwg yn fore iawn yn eu hanes, i'e, raor fore a dechreuad sylw. Golygfa gynhyrfus yw gweled nifer o blant wrth eu bodd yn chwareu. Cynhyrfodd Duw Esaiah i grybwyll hyn yn nghanol pethau anfeidrol bwysig, "A'r plentyn sugno a chwery wrth dwll yr asp." Cyfeiriodd Zechariah at hyn fel un o nodweddau calonogol Jerusalem a'r byd, dan deyrnasiad crefydd yn llawn Duw a llewyrch nefol: "A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwareu yn ei heolydd hi." Nid yw cymhelliadau chwareuol natur yn gyfyngedig i'r ieuainc a'r rhesymol, nodweddir holl natur gan hyn: " Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo, ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes." Gellir meddwl am y lefiathan mai prif amcan ei fod- olaeth yw hyn, "Yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwareu ynddo." Y mae darpariaeth mewn pob natur at y chwareuol bron yn ddieithriad. Y mae chwareu yn feddyginiaethol. Yn rhagflaenu afìechyd weithiau, ac