Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y D.YSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 782.] EBRILL, 1887. [Cyf. Newydd—182. €xtaçffí0Ìrait ^uftmtìibtwí. XI.—SYNIADAU DIWEDDAR AR Y GORUWCHNATURIOL MEWN CREFYDD. G A N Y P A R C H . D. M . J E N K I N S , LIYERPOOL. YSGRIF II. Y mae Gwyddoniaeth Naturiol, o ddyddiau Novum Organum Bacon, wedi bod yn gwneud camrau mor freision a chyflym tuag at enill meistrolaeth gyffredinol ar ffeithiau a deddfauy greadigaeth auianol, ac y mae mater yn ei dwylaw hi wedi myned i ymddangos gymaintyn fwy cywrain a chyfoethog o ystyr nag y tybid gynt ei fod, föl y mae clodydd y darganfyddiadau a wneir yn ymaeshwn wedi myned i swnio ynuwch yn awyrgylch feddyliol ein hoes ni na dim arall. Fe ganfyddir fod cynifer o ffeithi&u rhyfedd, ag yr edrychai dyn arnynt yn oesoedd boreuol ei hanes fel yn gorwedd y tu allan i gyfun- drefn natur yn gwbl, wedi eu lleoli ynddi erbyn hyn; ac y mae'r ffeithiau dyeithr ac anghyffredin hyny wedi eu dwyn dan ddeddfau sydd mor adnabyddus ac mor rheolaidd eu gweithrediad a'r ffeitbiau mwyaf cyffredin eu hanes, fel y mae llawer wedi myued i ddyfalu, ai nid yw cyf undrefn fawr ainrywiol a gogoneddus natur yn cynwys flfaithiau bodolaeth i gyd? ac ai nid yw gwyddoniaeth ar drothwy darganfyddiad sydd i ddarostwng pob ffeithiau, pa mor wahanol bynag ydynt yn eu harddangosiadau allanol, i un ddeddf fawr ddigyfnewid yr oll? Yr hen syniad am natur ydoedd, fod Duw wedi ei llunio, ac yn ei gweithio yn gwbl o'r tu allan iddi—ei fod ar foreu'r crëu wedi ei chynysgaeddu â phob elfen, a gallu, a pherthynas oedd yn angenrheidiol i barhad ei gweithrediad a'i hiawndrefn hi byth; ac ar ol gorphen saerníaeth ei ddoethineb a'i allu anfeidrol arni, wedi ei gollwng allan o'i law fel peiriant cwbl barod at ei amcauion neillduol, heb eisieu unrhyw ymyriad pellach yn ei hanes. Nid ydyin yn dal mai dyna ddirnad- aeth y Beibl ar y mater. Gwyddom fod ymadroddion dirif i'w cael yn yr ysgrythyrau santaidd a brofant mai fel arall yr edrychai ysbrydoliaeth ar waith y greadigaeth anianol o'r dechreuad. Ond pan ddaethpwyd i gaufod, dan ddylanwad athroniaeth ymarferol Bacon, fod natùr yn un gyfundrefn fawr gydberthynasol o ranau, a galluoedd, a deddfau a weithient gyda chysondeb diŵyrni yn mhob rhan, y syniad am Dduw sydd yn ei leoli ef y tu allan i'w waith gymerodd yr afael fwyaf dwfn a chyffredinol ar feddwl y byd. Ac yn nghymhorth y ffaith fod amddiffynwyr a gwrthwynebwyr Cristionogaeth yn y ganrif o'r blaen yn cymeryd eu safle ar yr un ddirnad- aeth sylfaenol am natur fel gwaith, ac am Dduw fel gweithiwr, y galluogwyd