Skip to main content

Y DYSGEDYDÜ: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 780.] CHWEFROR, 1887. [Cyf. Newydd—180. GAN Y PRIFATHRAW FAIRBAIRN, D.D., COLEG MANSFIELD, RHYDYCHAIN. Nid oes dim wedi gosod y fatli argrafi ar fy mediwl, er pan ddaethum i drigo yn Lloegr, a gorbwysigrwydd cenedlaethol ein Heglwysi Annibynol, y ìnodd hynod a tíira eithriadol y maent yn ychwanegu at y buddianau cyffredin—■ at ddoethineb y genedl Seisnig, ac at ddaioni y Wladwriaeth. Gallaf yn awr ddeall, yr hyn nas gallwn o'r blaen, y fath golledanadferadwy i'r genedl a fuasai eu sydyn ddiflaniad. Gall fod cyffes o'r fath yn eich taro yn ddy- cithr, ac eto y mae yn gyffes hawdd ei sylweddoli. Nis gall ystadegau osod allan werth a gwaith Eglwysi Cristionogol. Nis gall un dyn, yn wir, ym- weled â'n dolydd, neu drainwy trwy ein trefydd poblog a phrysur, heb weled prawfion rhy luosog i'w nodi o'r graddau anghyffredin y mae Anghydffurf- iaeth wedi ffurfio a chynal crefydd yn Lloegr a Chymru. Prin y mae yn ormod dweyd cymaint a hyn: pe byddai i'n heglwysydd, a'n capelydd, a'n cymdeithasau crefyddol, gyda'r hyn oll a gynwysant, drengu neu ddiflanuyn ddisymwth, y peidiai pobl y wlad hon a bod yn Gristionogion mwyach, ond y deuent yn bobl haner Gristioirògol. Eto nid yw hyn yn cynrychioli ond un agwedd, a'r agwedd f wyaf arwynebol, o'r gwaith cenedlaethol a gyflawnir gan Anghydff urfiaeth. Ac nis gall hyd yn nod llenyddiaeth Anghydffurf- iaetn ddatguddio ei llawn werth, er y gall, mae yn wir, hawlio cyfran hel- aeth o'r clasuron Seisonig. Anghydffurfiwr Seisnig ydoedd y prif-fardd ar- wrol Seisnig a all gydsefyll â Virgü a Dante y tu ol i Homer ei hun. Yr un modd hefyd y breuddwydiwr ysbrydoledig sydd wedi llanw dychymygy byd â darluniau amrywiol a bywiog Taith y Pererin, a Gwarchae yr Enaid. Nid oes odlau ysbrydol hafal i eiddo yr hen Isaac Watts am ymlynu yn y cof ac ymserchu yn y galon. Nid oes gofgolofn fwy sylweddol o ddysg yn yr iaith, nid oes amddiffyniad mwy pybyr i'r ffydd Gristionogol, na Dilysrwydd Hanesiaeth yr Efengylau, gan Nathaniel Lardner. Nid oes unrhyw waith ag sydd o ran arucheledd a naws ysbrydol yn uwch na Lẁing Temple John Howe; ac o ran gwres a thanbeidrwydd defosiynol, pa beth a all ragori ar Orphwysfa y Saint Richard Baxter? Heblaw hyny, nid yw yr ysbrydllen- yddol erioed wedi marw yn mysg yr Anghydffurfwyr. Gall fod Anghyd- ffurfiaeth yn lled brin o'r " lledneisrwydd a'r goleuni " sydd yn perthyn i'r diwylliant clasurol uwchaf; eithr perthyna i Anghydffurfiaeth y cryfder Seisnig mwyaf cyhyrog, a hwnw wedi ei dreiddio a'i gaboli gan egwyddor- ion Cristionogol dyrchafedig a ffydd Gristionogol anhyblyg. Y mae yn y * Yr ydym yn dra rhwymedig i Mr. W. Cadwaladr Davies, Prifysgol Bangor, am ei gyfieithiad rhagorol o'r ysgrif alluog hon, anfonwyd i ni ar gyfer y Dysgedydd, gau Dr. Fairbaiin.