Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—778.] RHAGFYR, 1886. [Cyf. Newydd— 178. G A N Y PARCH, J 0 S I A II J 0 N E S , M A C II Y N L L E T II. "Os gweli dreisio y tlawd, a thrawsŵyro barn a chyíiawnder mewn gwlad; na ryfedda o achos hyn; canys y mae yr hwn sydd uwch na'r uwchaf yn gwylied, ac y ìnae un sydd uwch na hwynt."—Preg. y. 8. Y MAE Solomon, yn y llyfr hwn, wedi cofnodi ffrwyth ei sylw a'i brofiad o fywyd dyn ar y ddaear. Y mae yn rhoddi crynodeb o'r cyfan yn y dat- ganiad pruddglwyfus yn y dechreu, " Gwagedd o wagedd, medd y Pregeth- wr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl," adn. 3. Yr oedd y pregeth- wr hwn wedi cael pob mantais yn y byd i ffurfio barn gywir am bethau goreu y ddaear, gan ei fod wedi cael profiad mor helaeth o honynt. Yr oedd ef yn fab i frenin enwog, ac yn frenin mor enwog a hyny ei hun. Fel y cyfry w, yr oedd ei fyd ef wedi bod yn esmwyth o'i febyd; ac yr oedd cyf- oeth ac anrhydedd lawer yn perthyn iddo. Yr oedd Duw hefyd wedi ei gynysgaeddu â graddau helaethach o ddoethineb na neb arall. Er hyny, dyma y ddedfryd a gyhoeddir ganddo ar bob peth yn y byd hwn, yn ol ei sylw ef ac eraill, ac yn ol ei brofiad ef ei hun, " Gwagedd o wagedd." Nid "gwagedd " ei hun a ddywedir ganddo, cofier, ond " gwagedd o wag- edd," fel pe tynasid hanfodolion gwagedd allan o'c hyn ydoedd yn wagedd yn flaenorol—cysgod o gysgod arall. Y mae y gwr doeth hefyd yn ailad- rodd y datganiad i ddangos fod ei feddwl yn nollol benderfynol ar y mater. Er hyny, dylem gofio nad ydyw y cwbl yn y byd hwn ddim yn " wagedd o wagedd " ynddynt eu hunain. Na, yn hytrach y mae y cyfan a roddir i ni gan Dduw yn fendithion gwerthfawr a sylweddol, am y rhai y dylem fod yn ddiolchgar iawn iddo. Dyna pryd y mae pob peth yn y byd hwn yn dyfod yn " wagedd o wagedd," pan fyddom ni yn gwneud defnydd an- nihriodol o honynt—pan fyddom ni, fel y goludog gynt, yn ceîsio digoni anghsnion moesol ac ysbrydol ein henaid â hwynt. I'r corff y maent yn bobpeth; ond i'r enaid nid ydynt yn ddim. A siomedig iawn, hyd yn nod yn y byd hwn, ydyw yr hwn sydd yn ceisio diwallu anghenion ei enaid â hwynt. Wedi anghofio ei hun, efallai, am dymhor, daw yntau i deimlo yn y diwedd mai gwir a ddywedwyd gan y breniu-bregethwr, mai " Gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbl." Yn y testun, yr ydym yn cael cyfeiriad at un o'r pethan hynod a welsai y Pregethwr wrth sylwi ar fywyd—fod y tlawd yn cael ei dreisio, a bod cyfiawnder a barn yn cael eu trawsŵyro mewn gwlad—pethau ysgeler iawn i Dduw i'wgweled, ac i ddynion i'w dyoddef. Yr ydym yn cael cynghor y Pregethwr hefyd sut y dylem ninau wneud os dygwydd i ni weled yr un peth, "Na ryfedda o achos hyn," Nyni a sylwn gan hyny ar— 2l