Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'ít HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—777.] TACHWEDD, 18S6. [Cyf. NEWYDD^-177. GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, DOLGELLATJ. Wrth Grefydd Deuluaidd y golygir yr ymarferiad o ddyledswyddau crefydd mewn teuluoedd. Y mae y mater hwnyn ddyddorol ar bob adeg, tra yr hawlia sylw neillduol mewn amserau pryd y meddylir fod crefydd ysbrydol yn dirywio yn y tir. Nid wyf yn hoffi seinio galarnad yn ddiachos—ni fynwn arddangos cyflwr pethau yn waeth nag ydynt; eithr onid yw hyn yn ffaith, sef, fod y bobl oreu yn ein mysg yn teimlo fod ad- fywiad ar Grefydd Deuluaidd yn beth i'w f'awr ddymuno ar hyn 0 bryd1? Gesyd rhai y pwys mwyaf ar ffyddlondeb a medrusrwydd gweinidogaethol, tra yr anghofiant y gwaith mawr sydd gau benau teuluoedd i'w wneud er lledaenu rhinwedd a santeiddrwydd yn y byd. Ni ellir dweyd yn rhy uchel am ddylanwad y Pulpud a'r Ysgol; ond pe ceid apostolion fel Paul i lenwi ein pulpudau, ac efengylwyr fel Timotheus i addysgu yn ein Hysgol- ion Sabbathol, ychydig fyddai eu llwyddiant, a thybied fod teuluoedd yn cael eu gadael heb addysg ac esiampl—heb ddysgyblacth ac addoliad. Yn absenoldeb Crefydd Deuluaidd, methu a wna yr offerynau a'r moddion goreu; ond gyda Chrefydd Deuluaidd mewn llawn rym, f'e gynydda gwaith yr Arglwydd yn ogoneddus, er gwaethaf anhawsderau cryfion. Gau mai o deuluoedd y gwneir i fyny genedloedd, gwelir mai y ffordd i grefyddoli cenedloedd ydyw drwy grefyddoli teuluoedd. Nerth mawr crefydd ar y ddaear yw y tetjlu. Mewn amserau 0 erledigaeth, yno y ffoai, megys i'w amddiffynfa gadarnaf, ac ni chafodd ffoi yno yn ofer; cafodd lety, a chroesaw, a meithriniad teilwng yno, wedi i synagogau Duw gael eu gwneud yn gydwastad â'r llawr, ac i weinidogion Crist orfod dianc am eu heinioes i anialwch, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear. Dywedir am y Palladium, yn Nghaerdroiau hen, fod y ddinas yn anorchfygol, tra yr oedd y ddelw hòno yn aros o'i mewn; ac na lwyddodd y Groegiaid i gymeryd y ddinas hyd nes iddynt daro ar ddyfais i gael yr eilun allan 0 honi. Onid oes yn y ffug-chwedl yna foeswers bwysig i ni yn y dyddiau hynî Crefydd Deuluaidd!— dyma ein Palladium ni,—dyma ddiogelwch ein rhagorfreintiau a'n hurddas cenedlaethol, a dyma hefyd y sicrwydd cryfaf am barhad gwaith Duw yn ein mysg. Yn y cyfnod Puritanaidd, ceisiwyd Uethu crefydd ysbrydol, yn gystal a rhyddid crefyddol, yn Mhrydain. Ond methwyd. Paham? x\m fod Crefydd Deuluaidd mewn cymaint 0 fri yn mhlith y Puritaniaid. Allan o'u teuluoedd hwy, coffa da am danynt, y deilliodd byddin ar ol byddin 0 gewri, y rhai, drwy eu hysgrifeniadau a'u hymdrechion dihafal a osodasant wedd holloí newydd ar y byd, megys y gwelir heddyw. A gawn ni eí'elychu esiamplau yr hen Buritaniaid yn 2h