Skip to main content

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—775.] MEDI, 1886. [Cyf. Newydd—175. VIII.—Y FARN A CHOSBEDIGAETH DRAGWYDDOL. GAN Y PARCH. 0. EVANS, D.D., LLUNDAIN. Fe ofynodd rhywun, unwaith, i'r enwog Daniel Webster, un o gyn-Arlyw- yddion America, beth oedd y syniad mwyaf difrifol a aethai trwy ei feddwlef erioedî ac fe atebodd yntau mai yr ystyriaeth ei fod yn gyfrifol i Dduw am bobpetha wneid ganddo, oedd y meddylddrych mwyaf difrifol adeimlwyd ganddo ef erioed. Mae yn gweddu i ninau gofio yn wastadol y bydd raid i bob un o honom, drosto ei hun, roddi cyfrif i Dduw, Rhuf. xiv. 12. Y mae y gair pwysig, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth," wedi ei ddarllen a'i adrodd ìaweroedd o weithiau yn ein clywedigaeth o'r pulpud; ond fe gawn ei glywed o le uwch na'r pulpud—sef o'r orsedd—ar fyrder; ac er mor gynefin ydym â'r ymadrodd, fe ddisgyna gyda phwysigrwydd newydd iawn ar ein clustiau pan y clywn ef o enau y Barnwr ei hun oddiar ei orsedd ! Y mae barn bersonol yn cymeryd lle ar bob dyn yn angeu; canys y mae yr ysbryd anfarwol, ar ei ymadawiad â'r corff, yn " dychwel at Dduw, yr hwn a'irhoes ef" (Preg. xii. 7), i gael ei farnu a'i sefydlu yn ei gartref tra- gwyddol. Ond y mae barn gyhoeddus achyffredinol i fod ar bawb drachefn yn niwedd y byd; canys "y mae Duw wedi gosod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gwr a ordeiniodd efe," Act. xvii. 31. Nid yw y duwiol yn gorphen gwneud da, na'r annuwiol yn gorphen gwneud drwg wrth farw: oblegid y mae dylanwad dynion yn fynych, er da neu er drwg, yn byw yn hir ar eu holau. Ac felly, er fod cyflwr pawb, fel y credwn, yn cael ei benderfynu yn ddigyfnewid byth yn angeu, eto, nid ydyw maint a swm gwobr y da a chosb y drwg yn cael ei benderfynu yn hollol hyd ddydd mawr y farn ddiweddaf. Rhyw dalu cyfran, megys, i'r naill a'r llall a wneir o angeu hyd yr adgyfodiad; ac ni bydd y cyfrif wedi ei wneud i fyny a'i gyfartalu yn berffaith hyd farn y dydd mawr, pan y bydd holl amgylchiadau y byd hwn o ddechreu amser i'w ddiwedd yn cael eu gwastadhau, eu dirwyn i fyny, a'u dwyn i derfyniad bythol. Ac fel hyn, fe fydd yr annuwiol yn gyfrifol yn nydd y farn am y drwg a wneir yn y byd gan ei esiamplau llygredig, neu ei lyfrau anffyddol, &c, wediiddo ef ei hunan fyned ymaith o hono; ac fe fydd y duwiol, o'r tu arall, yn cael ei wobrwyo yn nydd y farn am y daioni a wneir gan ei esiamplau, ei gynghorion, a'i lyfrau yntau, wedi iddo ef ei hunan fyned i orphwys oddi- wrth ei lafur. Ond y mae llawer dydd barn yn cymeryd lle, ar raddeg fechan, cyn dydd mawr y farn gyffredinol yn niwedd y byd. Megys y bydd rhyw anthem 2 B