Skip to main content

y dysgedydd: A'r IIWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.— 774.] AWST, 1886. [Cyf. Newydd—174. WLttb €xi&f i ©íuBöíignau ü i^gbfc, PHEEYGLON PRESENOL CYMDEITHAS. Perygìon Cymäeitlws yn Wladol, Egìwysiy, a Theuluaidd. Aiwchiada draddodwyd o Gadair yr Undeb Cymreiy yn Aberdar, Gorph. 28. gan y parf'h. e. herber evaxs, caernarfon. Anwyl Frodyr,— Y mae y cynulliad poblogaidd hwn yn Aberdar, yn dwyn meddyliau rhai o honom yn ol i gyfarfodydd Hydrefol Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru y cawsom y fraint a'r hyfrydwch o'u mwynhau yn y flwyddyn 1859. Nid oes ond rhyw chwarter canrif er hyny, ond, y "Tadau pa le y maent hwy?" O'r triugain namyn pedwar o siaradwyr cyhoeddus a gymerasant ran yn y cyfarfodydd bythgofiadwy hyny, nid oes ond chwech yn fyw ar y ddaear heddy w. Mor hynod o fyr ydyw oes dynion wedi iddynt ddyfod yn gyhoeddus! O'r chwech sydd yn aros, y mae tri o lionynt yn dal perthynas agos â Chymru—y Prifathraw Dr. Morris, Aberhonddu; Henry Richard, Aelod Seneddol y Genedl; a Samuel Morley, Tywysog ein cyfranwyr. Ni wyddai y Saeson fawr am danom ni cyn hyny; pan wahoddwyd yr Undeb i Aberdar yr oedd arnynt ofn mentro yr anturiaeth cyn anfon yn gyntaf ysbiwyr i edrych ansawdd y wlad. Ond cydnabyddant byth ei bod yn " wlad well" na'u dysgwyliad, oblegid na chafwyd nemawr gyfarfodydd fel y rhai hyny. Daeth yr Iesu ei hun i'r wyl hòno—yr oedd yr " Arglwydd yn agos," a diwygiad crefyddol grymus yn y wlad; yr oedd ysbryd gweddi yn fyw yn yr eglwysi, a gwlith y nefoedd yn ireiddio pob cynulliad. Buasai yn ddigon hyfryd genyf gymharu yr Year Boolt a rydd hanes y Cyfarfodydd hyny—ymweliad cyntaf yr Undeb â Chymru—âg Year Book y flwyddyn hon, sydd yn cynwys anerchiadau y gweinidog Cymreig cyntaf a gafodd y fraint o lenwi Cadair yr Undeb Seisnig. Gwelech felly fod yr enwad wedi myned ar gynydd yn fawr, nid yn Mhrydain yn unig, ond yn America a'r Trefedigaethau, a thrwy y byd paganaidd yn y chwartrer canri f hwn. Ond er fod llawenychu uwchben llwyddiant y gorphenol yn felus, yn y presenol y mae ein gwaith ni. Yn y presenol yn unig y gallwn dalu ein dyled i weithwyr rhagorol y gorphenol, a hawlio parch gweithwyr y dyfodol. Y mae y mater y dymunaf eich sylw ato, a'ch hynawsedd tra yn ymdrin âg ef, yn dal perthynas â'r presenol, sef,—