Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A'ít HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—772.] MEHEFIN, 1886. [Cyf. Newydd—172. VI.-YR YSBEYD GLAN A'I DDYLANWADAU. GAN Y PARCII. J. DAYIES, SILOA, LLANELLI. Pa beth "a hysbyswyd yn ysgrythyr y gwirionedd " ddylai fod yr ymof- yniad penaf wrth astudio y pwnc uchod? Mae natur a galluoedd yr enaid dynol yn bynciau pwysig i athroniaeth feddyliol i'w chwilio ac i draethu arnynt; hc y mae deall y meddwl yn drwyadl yn gymhorth mawr i ni ddeall yr hyn a ddysga yr Ysgrythyrau Santaidd am weithrediadau yr Ysbryd Glan yn ein hiachawdwriaeth. Ond y pwnc yr ymdrechaf egluro ychydig arno yn yr ysgrif fer hon yw, pa beth a ddysga y Beibl am y Gweithiwr Dwyfol a'i waith yn achubiaeth dynion. I. DYSGEIDlâF.TIÍ YR YSGRYTHYRAU AM YR YSBRYD GLAN. 1. Personoliaeth yr Ysbryd Glan. Mae tystiolaeth yr Ysgrythyrau yn eithaf eglur a phendant ar hynyma; ac ymfoddlonaf ar ddyfynu ychydig o adnodau ag sydd yn ei ddysgu. Dywedodd ein Harglwydd wrth ei ddysgyblion yn y gorchymyniad mawr, " Ewch gan hyny a dysgwch yr holl genedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glan," Mat. xxviii. 19. Onid yw hi yn eglur yn ol yr adnod hon fod yr Ysbryd Glan yn Berson yn yr un ystyr ag y mae y Tad a'r Mab yn Ber- sonau 1 Darllenwn hefyd yn yr Eí'engyl yn ol Ioan, " Eithr y Dyddanydd, yr Ysbryd Glan, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe a ddysg i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi," xiv. 26. Yma mae y Tad yn anfon—yr Ysbryd Glan yn cael ei anfon yn enw Crist, erdwyn yn mlaen y gwaith a ddechreuasidgan Grist ei hun. Dywed Paul drachefn, "Gras ein Harglwydd lesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glan, a fyddo gyda chwi oll," 2 Cor. xiii. 13. Byddai yn rhaid dirdroi yr adnod hon mewn modd dyeithr iawn cyn y gellid gwadu fod Iesu Grist, Duw, a'r Ysbryd Glan, yn Bersonau yn yr un ystyr. Dywedodd Pedr hefyd wrth Ananias, "Paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glanî" Act v. 3. Twyll gwirfoddol ydyw celwydd, ac nis gellir ei ddywedyd ond wrth fod neu fodau personol a deallgar. Y mae yn briodol i mi wneud dau sylw yma,—(i.) Cofied y darllenydd mai term duwinyddol ac nid ysgrythyrol yw y gair " person," pan yn cyfeirio at y Fodolaeth Ddwyfol. Defnyddir y gair "person" yn y Testamentau Cymreig a Seisonig,—" Ac yn wir lun ei berson ef," Heb. i. 3. Ond y gair a ddefnyddir yn y Cyfieithiad Diwygiedig Seisonig am y gair Groeg hupostaás, yr hwn a ddefnyddir yn yr adnod dan sylw, yw