Skip to main content

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 771.] MAI, 1S86. [Cyf. Newydd—171. YR IAWN—BETH DDYWED YR YSGRYTHYR? GAN Y PARCH. J. ALUN EOBERTS, B.D., CAERDYDD. [Parhad.] Yn mha ystyr, gan hyny, y defnyddir iaith yr omchwyliaeth Iuddewig i ddesgrifio bywyd a marwolaeth Iesu Grist? Golyga rhai awduron mai yn ffugrol yn unig y defnyddir yr iaith yn ei pherthynas â'r íesu, ac nad oedd gan yr íesu ei hun a'r apostolion un dewisiad yn y mater. Yr oeddynt yn ymwneud llawer â'r Iuddewon, ac yn ysgrifenu gan mwyaf at Gristion- ogion Iuddewig, ac o herwydd hyny yn gorfod defnyddio iaith yr Hen Destament. Ungwrthwynebiad mawr sydd genym i'rgolygiad hwn ydyw ei fod yn anghyson â dysgeidiaeth yr Hen Destament ei hunan. Y mae digon o awgrymiadau ynddo yn dangos nad yw yn ddatguddiad gorphenol ynddo ei hun. Canfyddir diffygion ac annigonolrwydd y deíodau a'r seremon'iau Iuddewig ar bob llaw ac yn mhob cysylltiad. Nid oedd y Tabernacl a'i ddodrefn, er mor wych, ddim yn gallu cyflëu syniad cywir a chyflawn foddhaol am Dduw, ac nid oedd yr offeiriadaeth yn gyfryw ag a roddai foddlonrwydd terfynol i'r medclwl Iuddewig. Dynion o gymeriadau anmherffaith oeddynt, a dynion gafwyd fwy nag unwaith yn anffyddlon i ddaioni uwchaf y genedl, ac a fuont yn euog o erlid cymeriadau goreu y genedl. Y mae yn hawdd dirnad liefyd yr annigonolrwydd a deimlai yr Iuddew crefyddol mewn cysylltiad â'r aberthau. Nid oedd un cyfatebiaeth rhwng bywyd yr aberth a bywyd y troseddwr, ac ni feddai yr anifail un- rhyw ewyllys yn y mater. Nis gallai yr elfenau anmherffaith hyn lai na chyfeirio y meddwl yn mlaen at ryw oruchwyliaeth berffeithiach. Cadarn- heir hyn gan ysgrifenwyr Rabbinaidd, dywedir gan amryw o honynt y darfyddai yr aberthau pan ymddangosai y Messîa. Pan ddeffroid cyd- wybod yr Iuddew i annigonolrwydd iawn trwy farwolaeth crea-iur afres- ymol, yr unig ffordd i roi boddlonrwydd iddo, medd Kurtz, ydoedd y dybiaeth fod aberth perffeithiach a mwy rhinweddol yn bod yn y dyfodol. Ac fel crefydd gysgodol dyma ydoedd gwasanaeth mawr Iuddewiaeth, crëu dysgwyliad am ddadguddiad llawn y Testament Newydd. "The re- lìgìon oý the Old Testament is the religìon, of Hupe" medd Luthardt yn ei ddarlithoedd ar wirioneddau Cristionogaeth, ac yn hyn y mae niewn per- ffaith gydgordiad â'r awduron goreu ar yr aberthau Iuddewig. Efallai fod gormod o duedd ynom i aros ar gyflawniad y gobaithhwn yn y Testament Newydd, yn fwy nag ar y ffordd yr oedd yr Hen Destament yn parotoi ar gyfer y Newydd. Darnodiad Outram o gysgod y w, ua symbol ofsomething