Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.-770.] EBRILL, 1886. [Cyf. Newydd-170. €^íl}oìfan &utoingttml, YR IAWN—BETH DDYWED YR YSGRYTHYR? GAN Y PARCH. J. ALUN R0BERTS, B.D., CAERDYDD. Dywed Matthew Arnold yn ei Literature and Dogma mai unig amcan yr ysgrythyrau ydyw gwasanaethu er ffurfiad cymeriad ymarferol gyf- iawn a rhinweddol. Gwada fod y Beibl yn cynwys un athrawiaeth am Dduw, ond yn unig dangos y ffaith ei fod yn gweithio i gynyrchu cyfiawnder ymarferol. Ni feddai yr ysgrifenwyr ysbrydoledig, meddir, un athrawiaeth am natur Duw; ni ddysgir ei bersonoliaeth, ac ni sicrheir mai efe yw awdwr a llywodraethwr y byd. Siarada Mr. Arnold am y darnod- iad a roddir gan dduwinyddion Beiblaidd o Dduw fel Bod Personol, sydd yn meddwl ac yn caru, fel rhywbeth hollol ddiddim, a dywed nad oes a wnelo y Beibl ddim â'r fath athrawiaeth. Ac hyd nes y daw ysgrifenwyr duwinyddol i benderfyniad beth yw ystyr dysgeidiaeth y Beibl am Dduw, nid oes modd i wirionedd crefyddol gynieryd gafael yn meddwl y lluaws. Derbynia ef yr ysgrythyrau am eu bod yn fwy nerthol a ffrwythlawn i feithrin a dadblygu cymeriad rhinweddol nag un math arall o lenyddiaeth, ac nid oblegid eu bod yn cynwys defnyddiau i adeiladuunrhywgyfundrefn athrawiaethol. Nid yw y cyfryw gasgliad a hwn i ryfeddu ato pan ystyr- iwn fod yr ysgrifenydd yn anymwybyddu y Beibl fel Datguddiad, oblegid nid yw yn cydnabod yr elfen oruwchnaturiol o gwbl. Yn ol ei ddysgeidiaeth ef, unig ffynonell gwybodaeth yr ysgrifenwyr Beiblaidd ydoedd natur a rhagluniaeth. Naturiol iawn, gan hyny, ydyw ei gasgliad—os oes rhyw werth o gwbl yn y Beibl, mai gwerth ymarferol ydyw. Wedi gwneud i ffwrdd â'r athrawiaeth o Dduw Personol, y mae yr elfen oruwchnaturiol allan o'r cwestiwn, a pheth rhwydd iawn yw ysgubo ymaith o'r ysgryth- yrau bob gwirionedd sydd wedi arfer cael ei ystyried yn hanfodol i'r gref- ydd Gristionogol. Beibl anafus a darniog ydyw eiddo Matthew Arnold, a phob ysgrifenydd o'r un ysgol, a'i rìnwedd penaf yn ngolwg dysgyblion y dosbarth hwn ydyw, ei fod yn gwneud mor lleied o hawl ar grediniaeth dynion. Yr eithafion gwrthgyferbyniol i'r safle hwn yw yr un a gymerir gan awduron uniongred, y rhai a hònant fod y Beibl wedi ei roddi i ddynion i'r unig amcan o ddysgu athrawiaethau duwinyddol. Y mae y dosbarth hwn yn euog o wneud cam â'r ysgrythyrau yn yr ystyr ganlynol. Nid ydynt wedi rhoi digon o le i'r syniad fod y Beibl yn cynwys yr elíen o ddadblygiad athrawiaethol. Ymdrinir â'r llyfrau ol'l ar yr un tir, ac fel yn meddu yr un awdurdod. Nis gall dim fod yn fwy cyfeiliornus feddyliem