Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— 769.] MAWRTH, 1886. [Cyf. Newydd—169. III. YR YMGNAWDOLIAD A DWYFOLDEB CRIST. GAN Y PRIFATIIRAW T. LEWIS, B.A., BALA. Anhawdd meddwl am unrhyw dri gair sydd yn cael mwy o le mewn ysgrìfeniadau duwinyddol na'r geiriau Cristionogaeth, y Drindod, a'r Eglwys, er na cheir y ddau flaenaf yny Beibl o gwbl, ac ni chawn (inor bell ag y gallwn gofio ar hyn o bryd) mo'r ulaf ond dwywaith yn yr oll gofnodir o eiriau Iesu. Ni cheir y gair Ymgnawdoliad ychwaith yn y Beibl. Y mae Irenaeus (o.c. 180) yn gwneuthur defnydd o hono. Cafodd y gair Seisonig Incarnaüon ei ffurfio, fe ymddengys, oddiwrth derm saif am " a wnaetlipwyd yn gnawd" (Ioan i. 14) mewn hen ysgrifau Lladin. Y mae yn debyg mai credo Nicea a'r tadau Lladinaidd (fel y gelwir hwy) roddodd i " Ymgnawdoliad" le parhaus yn nuwinyddiaeth a gwasanaeth crefyddol yr eglwys. Er nadydynt yn y Beibl, y mae yn bwysig iawn fod genym syniadau priodol am y meddwl gyflëir gan y geiriau uchod. Ni bu erioed fwy o sylw yn cael ei roddi i'r pwnc drinir yma nag a roddir yn ein dydd- iau ni. Y mae tuedd i roddi iddo fwy o le na dim arall. Yn ysgrifeniadau rhai o brif awdwyr Germany ca Bethlehem fwy o le na Chalfaria, a chymer y preseb y lle gymerid unwaith gan y groes. Iawn yw talu mwy o sylw ì'r blaenaf, ond ni ddylid gwneuthur hyny ar draul esgeuluso yr olaf. Nid iawn ysgaru y pethau ydynt un yn arfaeth yr Ior. Nid oes Uawei o an- hawsder i gredu yr hyn ddywedir am "y peth santaidd" aned yn Bethlehem pan gymerir yr "iawn mawr' i ystyriaeth. O'r tu arall, y mae tywyllwch Calfaria yn myned yn oleu ddydd yn ngoleuni y seren welwyd yn y dwyrain. Y mae yr Ymgnawdoliad yn un o'r materion mwyaf dyrus y gall un byth feddwl am dano. Ar ol bod yn synfyfyrio uwchben y dirgelwch hwn a'r dirgelwch arall, gall un waeddi allan, mwy yww"dirgelwchduwioldeb." Yn y byd athronyddol nid ces un pwnc Avedi tynu mwy o sylw na chy- sylltiad corff a meddwl. Oddiar yr adeg y gwelid yr hen Socrates yn croes- holi ei gymydogion ar gonglau lieolydd Athen, hyd y dydd y gorphenwyd y gyfrol olaf ysgrifenodd Herbert Spencer, hyn fu pwnc mawr athroniaeth yr oesau. Y mae'r " bont" rydd fynedfa o fyd y mater i fyd y meddwl hyd eto yn dysgwyl am y pen saer celfydd ddaw i'w thaflu dros y gagendor. Y mae rhai tra chywrain wedi bod yn ceisio defnyddio yr " occasional causes" a'r "plastic medium," àc, ond methent gyrhaedd eu hamcan. Cyn y bydd i neb lwyddo, credwn y bydd "meddyglyn bywyd" a "chareg yr athronydd," y chwiliwyd cymaint yn ofer am danynt ar hyd y canol-oesau, " wedi cael eu hen ddarganfod."