Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd yr "annibynwr." Hen Gyf.—766.] RHAGFYR, 1885. [Cyf. Newydd,—166. JIEWN PERTHYNAS I WAITH Y GENADAETH DRAMOR* GAN Y PARCH. H. ARNOLD THOMAS, M.A., BRYSTE. Y mae argraff ar feddyliau llawer nad yw y dyddordeb a gymerir gan ein heglwysi gartref yn lledaeniad teyrnas Crist mewn gwledydd tramor mor fywiog ag y mae pwysigrwydd a chysegredigrwydd y gwaith yn galw am dano. Tybiaf fod y sawl a gymerant yr olwg yma yn barnu gan mwyaf oddiwrth yr hyn a welant ac a glywant hwy eu hunain. Teithiant yma a thraw ar hyd y wlad, a chyfarfyddant â llawer o bethau hyfryd a dymunol; ond nid ydynt yn dyfod i gyffyrddiadâ rhyw lawer o frwdfrydedd cenadol. Cyfyd y farn hon oddiar sylw personol. Ond gellid dyfynu ffigyrau ag sydd yn ddiau yn ymddangos, i ryw raddau, fel yn ffafrio eu golygiad. Er enghraifft, ymddengys oddiwrth adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Nonconformist fod cyllid Cymdeithas Genadol Llundain, oddiwrth danysgrifiadau, rhoddion, a chasgliadau, yn llai ar hyn o bryd o ryw fil- oedd o bunau nag ydoedd ddeng mlynedd yn ol. Yn y cyfamser, mae y gwaith wedi bod yn niyned ar gynyrld, a'r canlyniad ydyw fod y Gym- deithas yn awr mewn dyled i'r gradd o fwy nag £11,000. Dengys hyn fod sefyllfa pethau yn ddifrifol iawn. Ond eto, mae yr amseroedd wedi hod cynddrwg yn ystod y deuddeng mlynedd diweddaf. Ydynt yn ddiau. Er hyny, gellir yn hawdd wneud defnydd gormodol o'r ddadl hon. Weithiau dywed ein cyfeillion wrthym fod masnach mewn sefyllfa gwir echryslawn, a'u bod hwythau yn colli arian beunydd, ac yn analluog, er mawr ofid iddynt, i wneud y peth yma neu'r peth acw. Oud yn fuan wed'yn, ysywaeth, cymerir hwy oddiwrthym, a chyhoeddir eu hewyllysiau yn y newyddiaduron creulawn, ac yna' cawn nad oedd eu hymdrech yn erbyn tlodi, wedi'r cwbl, prin mor galed ag yr ofnem. Nid yw yr holl fai i'w briodoli i'r amseroedd. Paham, ynte, na baern yn meddwl mwy am yr achos cenadol, ac yn gwneud rhagor er ei gefnogi a'i hyrwyddo? Yn un peth, fealla', atebai rhai o honom fod cymaint o bethau eraill i feddwl am danynt. Oawn y dysgybiion, ar un adeg neülduol, wedi eu llyncu i fyny gymaint gan yr ystyriaeth o'r annoethineb o wneud heb giniaw, neu o'i oedi yn rhy hir, fel nad oedd ganddynt lygaid i ganfod meusydd eang cynhauaf y byd. Yr ydym ninau hefyd yn euog o'u hanghofio, a hyny am ein bod wedi ein meddianu gan bethau eraUl. Dyna * Papyr a ddarllenwyd gerbron Uncleb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn Hanley swydd Stafford, dydd Mercher, Hydref 7fed, 1885, ac a gyfieithwyd i'r Gymraeggan y Parch. T. Hughes, Llansantffraid, Maldwyn. 2 l