Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ÜYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—765.] TACHWEDD, 1885. [Cyf. Newydd.—165. [Papyr a ddarllenwyd yn Nghynadledd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Dinbych, a gynaliwyd yn y Graianrhyd, Mai 12, 1885.] GAN í PARCH. H. IVOR JONES, LLANRWST. Gwelir ar unwaith fod y testun a ymddiriedwyd i'm gofal yn caniatau dau beth—(a) Fod yn perthyn i'r oes ei difyrion—difyrion sydd yn nod- weddiadol o honi, ac yn perthyn mewn modd arbenig iddi. (b) Bodolaeth Eglwys—" Yr Eglwys a difÿrion yr Oes"—a mwy na chaniatau ei bodol- aeth yn unig, yn mhellach awgryma y testun fod a fyno yr eglwys hòno, mewn rhyw ffurf neu gilydd, â difyrion yr oes, naill ai trwy eu cymerad- wyo neu eu condemnio, eu cefnogi neu ynte eu gwrthwynebu. Wrth oes yn ei ystyr briodol y golygir ysbaid bywyd dyn ar y ddaear, yn ei ystyr gyffredinol golyga gyfnod, y cyfnod presenol, yr amser hwn; felly wrth " ddifyrion yr oes," y golygwn ddifyrion yr amser, y cyfnod presenol Cytìea yr ymadrodd yr un syniad ag sydd i'r geiriau hyny o eiddo Crist wrth y Phariseaid, " 0 ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?" Difyrion yr oes— difyrion yr amserau hyn, y cyfnod presenol, naill ai am na fuont mewn ym- arferiad erioed o'r blaen, neu ynte am eu bod yn adgyfodiad o'r hyn fu unwaith mewn aiferiad, ond a fuasai o'r golwg am amser maith. Ceir yn awr mewn arferiad yr hyn sydd wedi bod felly yn ddifwlch am flynyddau lawer, íe, am oesau. Yn mhlith Difyrion yr oes ceir hefyd mewn bri anarferol yr hyn bethau a dybid oeddynt wedi eu claddu i fod am byth o'r golwg. Dysgwylid eu bod trwy ddylanwad yr Efengyl, a'r sefydliadau daionus hyny a berthynent iddi hi, wedi euhalltudio byth o'n gwlad. Ond wele, er ein syndods ein braw, a'n gofid, gwawriodd dydd eu hadgyfodiad, a dychwelasant o'u beddau yn bur gryf a heinyf, ond nid wedi meddianu anfarwoldeb ni a hyderwn. Yn mysg Difyrion yr oes ceir y newydd hefyd, am luaws o honynt gellir dweyd—y pethau na fu, y sydd; pethau a ddyfeisiwyd yn ddiweddar iawn ydynt, gwaith mawrrhywraiydywdyfeisio difyrion newyddion; blinir ar yr hen bethau, ac y mae calon yr oes yn dyheu am y newydd. Cynygiai un, ganoedd o flynyddau yn ol, wobr uchel iawn i'r neb allai dd'od o hyd i bleser newydd iddo. Gwobrwya cymdeithas y sawl a ga allan ddifyrwch newydd iddi. Profa hyn annigon- olrwydd y cyfryw bethau er cyfarfod âg angen dyn. Rhyw ddiffyg yn y borfa, fel rheol, sydd yn peri i'r ddafad grwydro. Gorwedda mewn por- feydd gwelltog. "Efe a wnai mi orwedd mewn porfeydd gwelltog." Yr un moddam ddifyrion, ymofynir am rai newyddion yn herwydd y diffyg sydd ynddynt er cyfarfod âg angen y dyn. Cwestiwn ag y mae gwahanol farnau yn ei gylch ydyw, I ba raddau y mae difyrion, byny yw, gwahanol fathau o chwareuon yn angenrheidiol er 2 F