Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—764.] AWST» 1885. [Cyf. Newydd.—164. Jàfà: GAN Y PABCH. L. J 0 N E S, TY'NYCOED. Er mwyn cael golwg glir ar neillduolion yr efengyl hon rhaid i ni fwrw golwg ar y pedair efengyl yn gyferbyniol. Mae yn rhyfedd ar ryw olwg i bedwar o ddynion ar wahan i'w gilydd, heb na cfa/e?-ddealltwriaeth nac annealltwriaeth, na chydymgais rhyngddynt i ysgrifenu pawb ei lyfr er coffadwriaeth am yr un gwrthddrych, ac na ysgrifenodd yr un o honynt, fel y tybir, am rai degau o flynyddoedd ar ol i'r gwrthddrych farw. Nis gallai dim ond awydd gogoneddu Iesu a llesoli eneidiau eu cymhell i hyn; oblegid nis gallent ddysgwyl elw bydol oddiwrth eu gwaith, ac nis gall neb gasglu mai ceisio enw mawr iddynt eu hunain yr oeddynt. Mae cuddio eu hunain yn ymddangos yn nod amlwg ganddynt. Ni buasem yn gwybod mai publican oedd Matthew oni b'ai iddo ef ei hun ddweyd hyny. Ni buasem yn gwybod fod Marc yn nai i Barnabas enwog oni b'ai i rywun heblaw ef ein hysbysu. Ni sonia Luc ei fod wedi ei ddwyn i fyny yn feddyg, na'i fod wedi gwneud aberth arianol trwy fyned i bregethu. Ac ni rydd Ioan gymaint a'i enw ei hun, na Iago ei frawd i ni. Myned o'r golwg eu hunain i roddi lle i'r Iesu dd'od i'r golwg oedd eu prif nod. Mao gan bob un o honynt ei ffordd ei hun i gyrhaedd yr amcan aruchel yma. Troes Matthew ei wyneb yn ol, ac edrychodd ar Iesu yn ngoleuni y pro- phwydoliaethau, fel y ceid sicrwydd mai hwn oedd y Messia dysgwyliedig. Edrychodd Marc o'i amgylch, ac ar bob llaw " Mab Duw " a welai yn d'od i'r golwg. Edrych yn nûaen yr oedd Luc, a'i arwyddairef oedd, "Hwn fydd mawr," a Iesu ar gynydd yn ei berson ac yn ei waith a welir amlycaf yn ei lyfr ef. Esgynodd Ioan yn ysbryd ei feddwl uwchlaw pethau amser, fel y gallai gael golwg gyflawn arno. Nid oedd neb wedi dilyn Iesu yn fan- ylach nag Ioan. Yr oedd yn un o'r ddau gyntaf aeth ar ol Iesu, ac yr oedd yn olaf wrth y groes. Ond yn ngoleuni y dechreuad yr edrycha ef ar Iesu yn benaf: nid ei fod wedi profi ei hun yn Fab Duw mewn gallu, ond mai Mab Duw oedd ef erioed, a'i berthynas â'i Dad yn y nefoedd, yn fwy nag â'i fam yn Bethlehem a welir yma. Dyma i ni felly Grist fel Brenin yr Iuddewon gan Matthew; Orist fel Iachawdwr y byd gan Luc; Crist yn profi ei hun yn Fab Duw trwy y pethau a wnaeth gan Marc; ond Crist yn Fab Duw, ac yn mynwes y Tad er tragwyddoldeb gan Ioan. Ehaid i ni gadw hyn mewn golwg er cael golwg gyflawn ar neillduolion yr efengyl hon. Dichon nad yw yn hawdd rhoddi darnodiad o'r prif neillduolion yma, er eu bod yn ddigon amlwg i'r darllenydd myfyrgar, mwy na rhoddi darnodiad o neillduolion personol Ioan ei hun, er ei fod yn gymeriad arbenig yn mhlith yr apostolion. Yr oedd ei hynodrwydd yn fwy mewn myfyrdod nag mewn gwaith. 2 S