Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf,—762.] AWST, 1885. [Cyf. Newydd.—162. PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. E. STEPHEN, TANY- MARIAN.* GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LE'RPWL. "Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a'r gwŷr tmgarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. Efe a ä i dangnefedd, hwy a orphwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb."—E&4IAH lvii. 1, 2. Mae y testun i'w gysylltu â diwedd y bennod flaenorol, ac yn cael ei ddwyn yn mlaen fel prawf ychwanegol o gyflwr gresynol y genedl. Y ddau beth a ddygir yn mlaen yma i ddangos sefyllfa druenus y wlad ydyw cynydd annuwioldeb a rhysedd yn eu ffurfiau mwyaf anfad, a symudiad ymaith trwy angeu yr ychydig wedddl o ddynion duwiol oedd wedi eu gadael. Mae yn debyg mai at gyfiwr y wlad yn nheyrnasiad annuw- iol Manasseh y cyfeirir, a bod y prophwyd yn cyfeirio at agwedd pethau yn ei amser ef; ac y mae pechodau y genedl wedi tynu ymaith bob amddi- ffyn oddiwrthi, fel y gwahoddir " pob bwystfil y maes " i wneud ei ymosod- iad. Maeyngalw sylw i ddechreu at bechodauarweinwyry bobl. "Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cwn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian. Ië, cwn gwancus ydynt, ni chydnabyddant a'u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll at eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun, o'i gŵr. Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddicd gref, a bydd yfary megys heddy w, a mwy o lawer iawn." Beth allasai fod yn is ? Y ffurfiau iselaf ar annuwioldeb, a'r cwbl yn mysg cyfarwyddwyr y bobl. Yr oedd- ynt wedi ymwerthu i loddest ac anghymedroldeb, yn aflywodraethus yn eu blysiau a'u chwantau, yn derbyn gwobr, ac yn ymwerthu i elw, yn ddiofn yn eu pesgi eu hunain, " Yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a'r nabl, y dympan, y bibell a'r gwin, ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithredoedd ei ddwylaw ef nid ystyriant." Nid oedd hyn • Traddodwyd y bregeth uchod yn y Tabernacl, Liverpool, nos Sabbath, Mai 30ain. Yr oedd yn ddrwg iawn genyf fod amgylchiadau yn ei gwneud yn anmhosibl i mi fod yn ei gladdedigaeth; a defnyddiais y cyfle cyntaf a gefais i bregethu, gartref, i dalu fy nheyrnged i'w goffadwriaeth. Mae rhai o'm cyfeillion yn cofio ddarfod i mi draddodi sylwedd yr un bregeth yn angladd fy nghyfaill y Pai'ch. John Morgan Evans, yn Ebenezer, Caerdydd, Ionawr, 1882. Ẅedicyhoeddi y preg- ethau a draddodais yn angladdau fy nghyfeillion, Simon Evans, a Dr. Rees, nis gallaswn wrthsefyll y cymhelliad i gyhoeddi hon hefyd ar ol fy nghyfaill Tany- ttarian.