Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ÜYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "m annibynwr." Hen Gyf.—760.] MEHEFIN, 1885. [Cyf. Newydd._160. (Ç ŵhrçtttŵíg fra gtt ìjr %ttttg*. PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. SIMON EVANS.* GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LE'RPWL. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw; ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hyraarweddiad hwynt. Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd."—HEBBEAID xiii. 7, 8. Mae y testun yn dwyn anghyfnewidioldeb Iesu Grist yn mlaen fel defnydd cysur wrth golli arweinwyr ffyddlon. Gwirionedd gogoneddus ydyw ynddo ei hun, yn annibynol ar y cysylltiadau y ceir ef ynddynt. Mae yn brawf diamheuol o Dduwdod yr Arglwydd Iesu Grist, oblegid un o briodoliaethau yr Anfeidrol ydyw anghyfnewidioldeb. "Canys myfi yr Arglwydd ni'm newidir." " Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear, a gwaith dy ddwylaw di yw y nefoedd : hwynthwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynthwy oll fel dilledyn a heneiddiant; ac megys gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a'th flyn- yddoedd ni phallant." Am Grist yn ddiau y mae yr apostol yn dywedyd; ond nid profi Duwdod Crist oddiwrth ei anghyfnewidioldeb ydyw amcan uniongyrchol yr apostol yma, er ei fod yn gwneud hyny, ond dwyn y gwir- ionedd mawr hwnw yn mlaen fel ffynonell cysur a dyddanwch yn ngwyneb cyfnewidioldeb pob peth arall. Mae yn edrych arno felly mewn gwahanol gysylltiadau. Dengys ei anghyfnewidioldeb yn ffynonell cysur yn ngwyneb cyfnewid- ioldeb pob peth gweledig a daearol. "Mae dull y byd hwn yn myned heibio." " Un genedlaeth a ä ymaith, a chenedlaeth arall a ddaw." Mae dynion y byd, ac amgylchiadau y byd yn newid. "Cysgod yw ein dydd- iaa;" "gwynt yw ein hoedl," a "golud anwadal"yw cyfoeth ar y goreu. Mae cyfnewidioldeb amgylchiadau y byd yn peri tristwch a phryder, yn cynyrchu anesmwythder ac aflonyddwch, yn crëu trachwant ac anfoddlonrwydd, ac oblegid hyny y dywed yr apostol yn flaenorol i'r testun, " Bydded eich *Traddodwyd sylwedd y bregeth uchod yn Hebron, Ebrill 21ain, 1885, yn angladd fy hoífus gyfaill y Parch. Simon Evans. Amlygodd rhai cyfeillion ar oí hyny ddy- muniad am ei chael i'r Dysgedydd neu i'r Diwygiwr, neu ì bob un o'r ddau. Add- ewais os cawswn hamdden y gwnaethwn hyny. "Nid oeddwn wedi ysgrifenu llinell o honi pan y traddodais hi, ac oblegid hyny, g^wel y rhai a'i gwrandawodd ei bod yn gwahaniaethu cryn lawer o ran frurî i'r hyn ydoedd pan y traddodwyd hi, heblaw ei bod yn helaethach, ond gwelir ar yr un pryd mai yr un ydyw o ran sylwedd. Mae marwolaeth annysgwyliadwy fy anwyl gyfaill Dr. Rees, yr hwn oedd yn cydbreg- ethu â mi yn yr angladd, wedi dwyshau yr amgylchiad i m meddwl, a'r newydd diweddarach am farwolaeth fy nghyfaill siriol y Parch. E. Stephen, Tanymanan, wedi fy mliruddeiddio yn fawr; ond ar yr un pryd, wedi gwneud diwedd y testun yn werthfawrocach yn fy ngolwg fel fiynonell cysur.