Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen GYF.-759] K\ (XÌ ERKfÍL, 1885. [Cyf. Newydd.—159. ä§x>fti:rçl Çatttîtg. GAN Y PARCH J. B. JONES, B.A., ABERHONDDU. Vn yr oesau gynt un pharos oedd yn y byd, a hwnw yn gynyrch celf, er mwyn goleuo llwybrau morwyr am gan' milldir oddiwrtho. Mae gras wedi cynyrchu amryw pharos i belydru ar lenyrch yr oes Gristionogol. Yr oedd Howel Harris gyda'r blaenaf o honynt. Tanbeidiodd ei lachar am ysbaid da yn y ganrif o'r blaen, ac y mae y goleuni ddaeth allan o hono yn aros yn yr awyrgylch hyd heddyw, ac erys hyd oni bydd yn ddydd goleu dros yr holl ddaear. Ond cyn myned i edrych ar y pharos hwn, mae genym ragymadrodd ag y mynwn i'r darllenydd ei weled, gan ein bod wedi ei feddwl. Mae adrodd hanesiaethynun o'r llwybrau mwyaf effeithiol i roddi addysg a mwynhad. Nid oes un dosbarth o lenyddiaeth mor dderbyniol gan ddarllenwyr a hanesiaeth; hefyd mae adrodd hanes mewn ymddyddan yn sicrhau sylw astud a ditiino gan dorf o wrandawyr. Wrth wrando hanes, yr ydym yn gweled personau acamgylchiadau yn cael eu hadgyfodi a u dwyn ger ein \ ron, ac y mae yn cael bron gymaint effaith arnom a phe byddai yr hyn a adroddir yn dygwydd ar y pryd o'n blaen. Mewn amryw ystyriaethau pwysig, mae edrych yn ol ar hanes gwlad yn gyffelyb i edrych yn ol ar hanes dyn. Mae i bob un o honynt eu dechreuad bychan, eu cy- nydd graddol, eu rhwystrau, ac yn enwedig eu cysylltiad â chrefydd. Ni fu gwlad na dyn erioed heb eu perthynas â chrefydd mewn rhyw ffordd. Yn wir, crefydd gwlad a chrefydd dyn yw y peth pwysicaf yn nglŷn â hwy; dylanwada hon yn y modd grymusaf ar eu cysur, eu nerth a'u defnydd- ioldeb. Mewn gair, mae crefydd yn effeithio ar bob peth arall yn ngyrfa dyn, ac yn nadblygiad gwlad, ac yn mynu gwasanaeth pob peth iddi ei hun. Byddai ein hanes fel cenedl yn dra gwahanol i'r hyn ydyw oni b'ai Cristion- ogaeth Nid oes un grefydd arall yn cael cymaint o ddylanwad daionus a dyrchafol ar wlad. Nid yw y sefylìfa uchaf o wareiddiad mewn moes, celf, dysg, deddf, nac iaith, ddim yn ddigon i ddyrchafu pobl i binacl Uwyddiant a hawddfyd heb gynorthwy yr efengyl. Caiff yr argraff mwyaf dymunol ar feddwl a moesau pobl drwy y profion diymwad a ddwg o fodolaeth Duw yn awdwr, cynaliwr, a llywodraethwr pob bodolaeth grëedig, yr agwedd hyfrydol a gogoneddus a ddyry o'i briodoliaethau, yr addysg foesol a gyf- rana, a'r ddarpaiiaeth a ddadguddia er iachawdwriaeth dyn colledig. Drwy natur, gwnaeth yr Arglwydd lawer iawn dros Gymru, efallai yn fwy rhagorol na thros un ran arall o Brydain. Ehoddodd iddi arwynebedd cynyrchiol, trysorau tanddaearol, hinsawdd nodedig o iachus, a golygfeydd swynol. Nodweddir ei phoblogaeth gan alluoedd cryfion corff a meddwl. Ond ein rhagorfraint ydyw yr efengyl, yr hon a feithrina rinwedd a duw- ioldeb. Megys dodi pylor yn llaw plentyn, neu gleddyf yn Uaw gwallgof-