Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDÜ: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen GYF.-758] EBRILL, 1885. [Cyf. Newydd-158. GAN Y PARCH. R. P. WILLIAMS, EBENEZER, ARFON. Sefydliad dwyfol yw yr eglwys, ac nid trefniant tyfedig o duedd gym- deithasol dynion. Y mae llawer o sefydliadau defnyddiol ac angenrheidiol wedi eu trefnu gan ddynion, ond nid ydynt yn ddwyfol; ac mewn crefydd y dwyfol sydd i'w ddilyn, ac nid y dynol, hyd yn nod pan ymddangosa yr olaf yn fwy manteisiol na'r blaenaf. Y mae cydgynulliad yr eglwys, nid yn unig yn ífrwyth ordeiniad Duw, ond hefyd yn ganlyniad y bywyd ysbrydol sydd yn y saint eu hunain. Hawlfraint arbenig yr eglwys Grist- ionogol ydy w y cydgynulliad hwn. Y gymdeithas eglwysig gyntaf a mwyaf naturiol a sefydlodd Duw oedd yr un deuluaidd; ond o dan Sinai, dygwyd yr holl deuluoedd i gyfamod â Duw ac i ystad eglwysig—neillduwyd dyn- ion i wahanol swyddau, a threfnwyd yr addoliad cyhoeddus yn mhabell y cyfarfod. Yn raddol yr ymledodd y ffurf o grefydd deuluaidd i fod yn un genedlaethol, ac o'r diwedd, ymeangodd i'r fath raddau, nes dyfod yn grefydd gyffredinol, a dyna'r pryd y defnyddiwyd y gair eglwys gyntaf mewn perthynas âphroffeswyr mwyaf cyhoeddus y Gwaredwr. Ymadrodd perthynol i'r cyfnod Cristionogol yn unig ydyw y term eglwys. Mynych y sonir am yr Eglwys Iuddewig. Ni ddeallasom o gwbl fod eglwys yn y byd cyn i Grist sefydlu un. Ni chrybwyllir unwaith yn yr ysgrythyrau am eglwys Iuddewig. " Gwladwriaeth Israel" y geilw Paul y grefydd hòno. Ffurf gynulleidfaol o gario yn mlaen wasanaeth crefyddol ydyw eglwys, a ffurf nad yw yn perthyn i'r un oruchwyhaeth ond y Gristionogol. Teulu- aidd yn unig oedd y batriarchaidd, a theuluaidd a chenedlaethol oedd yr Iuddewig, ond un eglwys fawr gyffredinol ydyw yr un Gristionogol, er yn ymranu i lu o fân eglwysi, fel y byddo amgylchiadau yn gofyn. Nid yw y gair eglwys yn golygu o angenrheidrwydd gynulleidfa o bobl santaidd neu gysegredig, oblegid yn yr ystyr gyntaf y defnyddir ef yn y Testament Newydd, golyga gynulleidfa o unrhyw natur, crefyddol neu wladol, rheol- aidd neu afreolaidd, cyfreithlon neu anghyfreithlon. Nid yw pob cynull- iad o bobl yn eglwys i Grist Gall nifero ddynion fod yn eglwysyn ystyr genedlig y gair pan yn ymgyfarfod i fyfyrio gwirioneddau, i fabwysiadu egwyddorion, ac i fyw wrth reolau dynion; ond ni fyddant yn eglwys Grist- lonogol oddieithr fod eu deall wedi ei oleuo yn athrawiaethau y Beibl, eu calonau wedi eu hadgenedlu gan ei wirioneddau, a'u buchedd wedi ei di- wygio gan ei wersi, a'u holl fywyd yn nodweddiadol o'r gweithgarwch a amlygwyd gan Grist ei phen. Nid oes un ran o ddysgeidiaeth y Beibl yn amlycach na bod rhwymed- igaeth ar bawb weithio, a mynych y dywedir fod llwyddiant dyfodol pob dyn yn ymddibynu ar ei ddiwydrwydd ei hun, a bod llafur gonest yn sicr