Skip to main content

Y DTSGEDTDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr. Hen Gyp-756] CHWEFROR, 1885. [Cyf. Newydd-156. âfimattmttroaìrta& CírçtefümtmjíL GAN Y PARCH. LEWIS JAMES, AMROTH, PENFRO. Dysgir ni yn eglur yn y Testament Newydd y derbynir dyn pechadurus i ffafr Duw, nid trwy ei haeddiant ei hun, ond trwy drugaredd Duw. "Nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau." Tosturi pur, trugaredd noeth ydyw. Mae y rheswm am ein derbyniad yn rhywbeth tuallan i ni; nid ynom ni y mae, ond yn yr hyn yw ac a wnaeth Crist drosom ni. " Cyfiawnheir ni yn rhad drwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu." "Dawn Duw yw bywyd tragwyddol—rhoddnoeth ydyw—trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Mae ein heddwch, ein llawenydd, a'n nerth fel Cristion- ogion yn dibynu ar ein hamgyffrediad clir o'r gwirionedd hwn. Dysgir ni yr un mor eglur yn y Testament Newydd fod yr hwn sydd wedi deall a derbyn y gwirionedd hwn o hyn allan i droi a rhodio mewn newydd-deb buchedd. "Mae ei ffrwyth yn santeiddrwydd." Mae hunan yn mhob ffurf arno i gael ei ddiorseddu, a Duw, fel y mae wedi dyfod atom yn Nghrist, i gymeryd ei le yn ein calon. Mae Crist ei hun yn dysgu ac yn hawlio hyn yn gadarn ac yn gyson; a cheir yr un ddysgeidiaeth, mewn geiriau gwahanol, yn rhedeg drwy yr holl ysgrythyrau. " Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi." " Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ym- waded âg ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi." Cynygiwu i'r darllenydd ychydig nodiadau ar yr hunymwadiad a ofyna Crist oddi- wrth bob un o'i ddysgyblion. 1. Mae ei wreiddyn mewn cariad at Grist. Mae hunanymwadiad hunanol —mae ei wreiddyn mewn hunan. Mae y cybydd yn hunanymwadu pan yn gwrthod iddo ei hun wisg, ac ymborth, a gorphwysdra priodol, er mwyn casglu arian. Mae y myfyriwr uchelgeisiol yn hunanymwadu pan yn dilyn ei efrydiaeth yn ddiystyr o bleserau, a chwsg, ac iechyd, er mwyn dyrchafiad a chlod. Yr oedd erlidwyr Paul yn hunanymwadu pan dan adduned i beidio bwyta nac yfed nes iddynt ei ladd, er porthi eu cenfigen. Nid oes dim yn ganmoladwy a Christionogol mewn hunanymwadiad o'r fath hyn. Mae yn aml yn feius a pheryglus—un rhan o hunan yn ymwadu er boddio y llall ydyw. Mae hefyd hunanymwadiad naturiol—mae ei wreiddyn yn y serch naturiol sydd gan un at arall. Canfyddwn ef yn y fam yn gwylio ei maban claf, heb roddi cwsg i'w llygaid am wythnosau oddiar y serch sydd yn ei mynwes tuag ato. Canfyddwn ef yn y tad serchus sydd yn llafurio yn galed trwy wres yr haf ac oerder y gauaf, er mwyn ei briod a'i blant Daw yr uu peth i'r golw* yn y ferch ieuanc a