Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf. 758. TACHWEDD, 1884. [Cyf. Newydd.153. $Iẃ arç u €mtau. GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW. Mae effeithiohwydd olew i dawelu tònau y môr wedi tynu sylw er's can- rifoedd lawer. Dywed Pliny yr hynaf fod olew yn meddu dylanwad i wneud moioedd yn dawel a llonydd, ac oblegid hyny yr arferai ymsuddwyr chwistrellu olew o'u safnau i lyfnhau gwyneb y môr, mewn trefn iddynt gael goleuni; a gallasem yn hawdd gyfeirio at dystiolaethau cadbeniaid ìlongau a physgodwyr i ddangoseffaithrhyfeddol olewary tònau. Gwnaed arbrofion llwyddianus ar hyn yn ddiweddar gan wr o'r enw John Shields o Perth, ac fel y dywed un, cadwyd hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gael allan gymhwysiad ymaiferol y sylwadau wnaed gan Pliny ddeunaw can' mlynedd yn ol. Yn mis Ionawr diweddaf, yn mhorthladd Falkstone, yr oedd tyrfa fawr, yn yr hon yr oedd rhai gwŷr urddasol, wedi ymgasglu i edrych ar Mr. Shields yn gwneud ei arbrofion; a dywed un gohebydd fod yr ymwelwyr wedi gweled digon i'w hargyhoeddi o effeithiau rhyfeddol olew i dawelu aflonyddwch y cefnfor. Yr oedd yn rhaid i'r meirch gwyn- ion, y rhai a ddeuent gan ymdreiglo i mewn o'r sianel, lyfnhau eu myngau ac ymlonyddu mor fuan ag y cyrhaeddasant gymydogaeth yr olew. Gwnaed un arbrawf trwy i'r olew gael ei yru gyda sugnedyddion trwy bibellau, y rhai a redent allan i'r môr. Pan ddaeth yr olew i'r wyneb, gwnaeth fan tawel yn nghanol y tònau, yr hwn a gerid yn mlaen gyda'r llanw heibio y lanfa (pier). Gwnaed arbrawf arall gyda llosbelenau olew (oil shells), yn cynwys tua galwyn o olew, y rhai a saethir i'r man y dewisir yn nghanol y tònau, y rhai pan yn disgyn neu wedi disgyn a ffrwydrant, pryd yr ymdaena yr olew Jros y tònau gan eu tawelu yn y fan. Mor werthfawr y gall y ddarpariaeth ryfeddol hon fod i'r morwyr dewr a'r teithwyr dychrynedig mewn Hongddrylliadau i wneud ffordd dawel a diogel iddyut o'u peryglon! Mor werthfawr hefyd i longau pan yn dyfod i mewn i borthladdoedd ar ddyddiau ystormus! ünd rhaid peidio myned yn mhellach yn y cyfeiriad hwn, ac ymdrechu gwneud defnydd cymhwysiadol o'r hyn a ysgrifenwyd. Onid ydyw tònau ffyrnig-wyllt y môr yn ddarlun o'r ystormydd ddygwyddant yn fynych ar fôr cymdeithas, a'r hyn ydyw yr olew i'r tònau ydyw geiriau doeth ac ar- afaidd, ac ysbryd tangnefeddus, i dònau dilywodraeth drwg-nwydau a dial- edd. Y fath gymeriad ardderchog ydyw y tangnefeddwr, yr hwn sydd mewn heddwch â Duw, mewn heddwch âg ef ei hun, yn dilyn heddwch â phawb, a thrwy ymarweddiad santaidd a nefol, ac olew eiriau tynerwch ac addfwynder yn Cöisio darostwng tònau gelyniaeth, llid .i chynddaredd, a dwyn pleidiau ymladdgar i heddwch â'u ^ilydd. Mae Hl