Skip to main content

Y ÜTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf. 752.] HYDREF, 1884. [Cyf. Newydd.—152. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, LLUNDAIN. "Ac efe a ddy wedodd wrthyf, Propbwyda tua'r gwyDt, prophwyda fab dyn, a dywed wrth y gwynt, Fel hyii y dywed yr Arglwydd Dduw; O anadl, tyred oddiwith y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw. Felly y prophwydais fel y'm gorchym- ynasid; a'r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a tafasant ar eu traed yn Uu mawr iawn." —EZKCIEL xxxvii. 9, 10. Mae Ezeciel yn y benod lion, mewn gweledigaeth, yn canfod ei hun yn cael ei osod gan yr Arglwydd yn nghanol dyffiyn eang, oedd a'i wyneb yn cael ei orchuddio gan luaws dirif o esgyrn dynion meirwon. Yr oedd y gwastadedd eang yma yn >mddangos i'r prophwyd fel lle oedd wedi bod, tiynyddau yn ol, yn faes rhyfel, lle yr oedd dwy fyddin fawr elynol wedi cydgyfarfod i ymladd brwydr waedlyd; ac yna wedi gadael cyrff y lladded- igion, druain, wrth y mdoedd, yn bentyrau ar wyneb y maes heb eu claddu. A dyna lle yr oedd adar ysglyfaethus, a bwystfilod iheibus, wedi bod yn gloddesta ar gnawd y lladdedigion, fel nad oedd yno erbyn hyn ond eu hesgyrn yn unig yn aros ar wyneb y dyffryn. Ond y mae y prophwyd yn gweled ei hun yn cael ei ddefnyddio yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i fywhau ac adgyfodi yr esgyrn hyn, gan eu gwneuthur eilwaith yn fyddin fawr o ddynion byw, parod i fyned drachefn i'r maes yn erbyn eu gelynion. Y mae yn ddiau fod y weledigaeth fawr hon wedi ei bwriadu, yn y lle blaenaf, i osod allan gyfiwr isel a gresynus y genedl Iuddewig tra yn nghaethiwed l->abilon, yn nghyda'i gwaredigaeth oddiyno, a'i hadferiad yn ol i'w gwlad, adn. 11, 12. Yr oedd y genedl megys wedi ei Jladd a'i din- ystrio, o ran ei bywyd gwladwriaethol a chrefyddol, yn ystod ei chaeth- iwed yn Babilon; ac yr oedd ei gwaredigaeth o'r caethiwed, a'i hadferiad i fwynhad o'i rhyddid a'i rhagorfreintiau,yn ymddangos yn beth annhebygol iawn—mor annhebygol ag a fyddai i lu ma^r o laddedigion rhyfel ddyfod yn fyw drachefn i ail drin y byd, a dilyn eu gorchwylion. Ac eto, fe ddangosir yma fod hyny i gymeryd lle, a bod y genedl i gael ei hadgyfodi o'r ystad o farwolaeth yr ydoedd ynddi yn nhymhor ei chaethiwed, a'i had- feru i sefyllfa o fywyd crefyddol a gwladwriaethol, adn. 11—14. Ond er mai dyma gyflawniadllythyrenol y weledigaeth. brophwydoliaethol hon, eto y mae yn hollol sicr fod iddi hefyd ystyr fwy ysbrydol a chyffredinol na hyn. Yr oedd rhyddhad a gwaredigaeth yr Iuddewon o gaethiwed Babüon yn ddarlun, fel y dengys yr ysgrythyrau yn amlwg, o waredigaeth pechad- uriaid o feddiant pechod a Satan, a'u dychweliad at Dduw trwy yr efengyi; ac o adtÿwiad crefydd yn yr eglwys, pan fyddo yr eglwys wedi syrthio i gyflwr o ddirywiad a marweidd-dra. Mae yn eithaf priodol i ni, gan hyny, gymeryd y weledigaeth hon yn sylfaen i wueud ychydig sylwadau ar El