Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—481.] MEDI, 1884. [Cyf. Newydd.—151. Y GOLUDOG A LAZARUS. GAN Y PARCH. LEWIS JONES, TY'NYCOED. Golygir yn gyffredin mai llefaru ar ddameg yr oedd Iesu Grîst wrth ddarlunio y goludog a Lazarus, neu fel y siaredir yn gyffredin, Dives a Lazarus, er fod yma amryw bethau sydd yn ymddangos yn debycach i hanes llythyrenol. Yr hyn sydd yn ei gwneud yn annhebyg i ddameg yw, nad yw Iesu Grist yn ei galw yn ddameg, megys y byddai yn arfer, a bod yma enw personol wedi ei ddwyn i mewn. yr hyn nad oedd arferol mewn dameg, ac nad oes yma ffugr oddiwrth bethau naturiol ac addysg ysbrydol yn cael ei dynu oddiwrtho. Os mai hanes ydyw, gwelwn enghraifft o dynerwch teimlad Iesu Grist yn dropio enw yr annuwiol tra yn coffâu enw y duwiol. Os mai dameg ydyw, pethau posibl osodir allan yma; os mai hanes, pethau sicr, ac y mae yr addysg i ni yr un peth oddiwrth y naill a'r llall. Gwelir yma ddarlun o'r ddau fyd yn eu goreu ac yn eu gwaethaf, ac o ddau ddyn wedi profi y goreu a'r gwaethaf—y naill oreu y byd yma a gwaethaf y byd arall, a'r llall waethaf y byd yma a goreu y byd arall. Mae yn anhawdd gosod allan y byd yma yn fwy dymunol nag y profodd Dives ef, ac o'r ochr arall yn fwy annymunol nag y profodd Lazarus ef. Ac y mae yn sicr na ellir gosod allan y byd arall yn waeth o lawer nag y profodd Dives ef, nac yn well o lawer nag y profodd Lazarus ef. Gosodir y ddau allan fel cydoeswyr, yn byw yn yr un gymydogaeth, yn adnabyddus i'w gilydd, ac wedi marw, mae yn debyg, yn agos yr un pryd. Ond er fod y pethau hyn yn gosod allan ryw debygolrwydd rhyng- ddynt, mae yma fwy o bethau yn gosod allan yr annhebygolrwydd. Mae dau eithafnod y ddynoliaeth yn cael eu dal allan yn gyferbyniol yma. Mae y naill yn iach—rhaid ei fod felly cyn y buasai ganddo y fath archwaeth at fwyd beunydd (daily),treL y maey llaíl yn afiach,yn gornwydlyd; y naill mewn porphor a llian main, a'r llall yn noeth—rhaid ei fod yn noeth, neu o leiaf yn garpiog, cyn y gallasai y cwn lyfu ei gornwydydd; y naillyncael bwrdd llawn—"helaethwych beunydd," a'r llall ar ei oreu yn cael briwsion; y naill yn y palas a'r llall tuallan i'r porth; y naill yn cael ei amgylchu gan bendefigion, a'r llall gan gwn. Yr olwg nesaf gawn ar y ddau yw yn marw; "Bu i'r cardotyn farw," "a'r goludog yntau a fu farw." Nid oes neb yn rhy dlawd na rhy gyfoeth- og i farw; marw yn y castell a marw yn yr heol. ííid oes neb yn rhy grand gan angeu ar y naill law, na neb yn rhy fudr ar y llaw arall, i ym- aflyd ynddo. Geill cyfoeth adeiladu amddiffynfeydd cedyrn, ond nis gall Bl