Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr ünwyd "yr annibynwr. Hen GYF.-480. AWST, 1884. [Cyf. Newydd.-150. EIN BYLEDSWYDD FEL ENWAD YN WYNEB EI CHYNYDD. gan y parch. e. herber evans. Yr ydym gyda phob parodrwydd yn cydnabod fod Cymru, trwy y rhagor- freintiau addysgawl a estynir iddi, yn dechreu canfod addewid y cynhauaf a hauwyd gan hunanaberthwyr gwladol ac arweinwyr cenedlaethol am lawer blwyddyn, o ba rai y mae un o'r penaf o honynt yn anrhydeddu ein cynulliad heddyw â'i bresonoldeb. Ond y mae modd cael y cynhauaf mewn cyfleusderau ardderchog fel a estynir i ni y dyddiau hyn, ac eto i ni esgeuluso ein dyledswydd a'n rhwymedigaeth i wneud y goreu o hono, er budd a bywyd ein plant a'n cenedl. Yr ydym wedi cwyno yu hir bellach o herwydd ein hanfanteision cenedlaethol yn nglŷn âg addysg, ac nid heb achos, ond y mae y manteision yn awr yn ein gafael, ac iawn ddefnydd cyffredinol o honynt yn unig a gyfiawnha ein hachwyniadau ar hyd y blynyddoedd. Y mae Ymneillduwyr Lloegryn cael eu cynorthwyo gan rai o Gymru —wedi gwneutlmr hyny yn nglŷn â Phrifysgolion Rhydychain a Chaergrawnt. Bu y frwydr yn boeth, yn enwedig am yr wyth mlynedd olaf, cyn agor eu rhagorfreiniau i'r Ymneillduwyr drwy ddeddf 1871 (Unẅersities Tests Act). Ond beth yw'r canlyniadt Y mae dros gant o Ymneillduwyr yn awr yn Bhydychain, a mwy na hyny yn Nghaergrawnt. Y mae hyn yn dangos eu bod, nid yn unig wedi dadleu am i'r holl raddau, y buddian- au, a'r swyddau yno gael eu taflu yn agored iddynt, ond ar ol gwneuthur hyny y maent wedi profl eu bod yn meddu gallûoedd ac ymroad digonol i'w henill a'u defnyddio. Fel y gallesid dysgwyl, y mae ychydig o hen lefain rhagfarn y dyddiau gynt heb ei Iwyr fwrw allan. Ni chaniateir i Mr. Horton, er y cymhwysaf mewn talent a dysg, gan ei fod hefyd yn weinidog Annibynol, i arholi y clerigwyr ieuainc! Ond dywedir mai nid yn y brifysgol yr oedd yr yehydig lefain hwn ychwaith, ond mai offeiriaid y wlad, oeddynt wedi graddio yno pan yr oedd hen ragfarnau yn llenwi'r awyrgylch, a'i dygodd i'r etholiad gyda hwy. Geíwir arnaf gan y pwyllgor i ymdrin a r mater oddiar safle enwadol, "Ein dyledswydd fel enwad yn Avyneb cynydd addysg uwchraddol yn Nghymru," ac y mae hyn yn eithaf priodol, oblegid yr ydym fel gwahanol enwadau wedi pasio llawer penderfyniad i alw ar y Llywodraeth i wneuth- ur ei rhan tuag atom, ac y mae ein rhwymedigaeth ninau yn awr yn dechreu, i arfer ein holl ddylanwad i berswadio rhieni Cymru i ddefnyddio y manteision rhagorol hyn er budd eu plant a'u cenedl. Y mae yn ddyled- swydd arnom i ddal ar bob cyfleusdra i ddangos iddynt fod rhoddi addysg uwchraddol yn mhen eu bachgen talentog yn fwy pwysig na gadael arian mewn ewyllys ar ol iddo. Fod addysg fel sydd yn awr wrth eu drysau yafortune ynddi ei hun, ac yn agor drysau o flaen bechgyn Cymru i swydd-