Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd c<yr annibynwr." Hen Gyf.—479.] GORPHENAF, 1884. [Cyf. Newydd.—149. GAN Y PARCH. HENRY SIMON, WESTMINSTER, LLTJNDAIN. [Anerchiad i Fyfyrwyr Coleg Aberhonddu, a draddodwyd yn nghapel yr Annibynwyr Seisonig, yn y dref hòno, nos Fawrth, Mehefin 10, 1884.] Anwyl Frodyr,— Wrth edrych arnoch yr hwyr presenol, adgofir fi am blant Israel yn yr anialwch. Y difî'aethwch oedd athrofa arddeichog Duw i'w bobl ddewis- edig. Yr oedd yn dra goludog o fanteision addysgawl; cynwysai yn arbenig yr argraffluniau (diagrams) godidocaf, oblegid yr oedd yr addysg o nodwedd arluniol i raddau pell; ymdebygai i'r gyfundrefn a adwaenir wrth yr enw Jcindergarien yn y dyddiau diweddaf hyn. Fe'u crogid weith- iau wrth y ffurfafen, ac weithiau wrth y graig. Edrychai y nefoedd fel pe wedi ymblygu dan bwysau gogoniant palas awyrol y Brenin, pa un a welid yn hongian fry uwchben. Y dydd, cwmwl a dirgelwch ydoedd, ond yn yr hwyr, pan ymostyngai y dydd o flaen cysgodion y nos, ymsaethai ei ystyr feAvnol allan yn ffiamau o ogoniant, hyd nes y tanbeidiai tywod y diffaethwch gan ddysgleirdeb dwyfol. Siglodd a chrynodd Sinai ei hun, fel pe yn cael ei orlethu gan bwysau y datguddiedigaethau dwyfol a grog- ent megys darluniau o Dduw ar hyd ei lethrau ysgythrog. Vr oedd acw un coleg maẅr, o ba un yr oedd Duw yn Benlly wydd. Odditano, gwein- yddai Moses ac Aaron fel prif-feistriaid. Yr oedd yno ushers hefyd o wahanol raddau, ond cymerai Duw holl gyfrifoldeb y sefydliad arnoeihun. Gwisgid a phorthid ac addysgid y myfyrwyr gan Dduw. Ceryddid hwynt hefyd ganddo ef ; unwaith yn hanes y Coleg, ffrewyllwyd hwynt âg ysgorp- ionau, oddiwrth yr hon ffaith y rhoisant i'r oesau yr argraft' nad oeddynt hwy oll yr hyn a ddylasai myfyrwyr fod. Pwnc mawr eu hefrydiau oll oedd Duw, i'w adnabod ef eu hunain, a chyrda'r amcan arbenig o'i wneuthur yn adnabyddus fel yr unig wir a bywiol Dduic i'r ìwll genedloedd. I faes eu llafur dyfodol y rhoddid yr enw Gwlad yr Addewid, ac a ddesgrifìd mewn gwahanol ffyrdd, ond y desgrifìad a hoffai y myfyrwyr f'wyaf (oblegid nid oeddynt ddif'ater gyda golwg ar betliau da bywyd) yaloedd "gwlad yn llifeirio o laeth a mel." Y rhai lleiaf meddylgar yn eu plith a ddeuent ar amserau i deimlo yn flin o herwydd y cwrs cole awl maith, yn enwedig y ddysgybl- aeth; gan ddymuno cael eu hunain yn ol drachefn yn ngweithfeydd pridd- feini yr Aipht, ond eraill a dynent yn mlaen yn eon, gyda dysgwyliadau uchel am y wlad dda odiaeth. Tra dyddorol ydoedd canfoíl pa mor awydd- us oeddynt i Avrando, os dygwyddai rhywun ddyfod a newyddion o froydd ea gweithrediadau dyfodol. Dywedai rhai fod meusydd priddfeini yr