Skip to main content

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNW.YD C'YR ANNIBYNWR." HEN Gvf.— 478.] MEHEFIN, 1884. [Cyf. Newjydd.—148. PREGETH ANGLADDOL MR. OWEN MORRIS, PORTMADOG GAN Y PARCH. L. PROBERT. "Yna y rhai oedd yn ofni enw yr Arghvydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog; a'r Arglwydd a wrandawodd ac a glybu, ac ysgrifenwyd llyfr cofTadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i'r rhai oedd yn meddwl ani ei enw ef. A byddant eiddof li/medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd, fel yr arbed gwr ei fab sydd yn ei wa»anaethu," MALACHI iii. 16, 17. Portreadir y cymeriadau prydferth yna felrhaicyferbyniol i'r cymeriadau llygredig a grybwyllir drwy y llyfr hwn. Mae "gweddill yn ol etholedig- aeth gras " wedi bod gan Dduw yn yr adegau tywyllaf ar ei achos, yn fath o Israel yn Israel, nes y gweithia yn nhrefn gras yn debyg fel y gwna yn hhrefn nntur. Nid yw wedi trefnu i'r naill flwyddyn i fod ar wahan oddi-' wrth y llall, ond fod gweddill o'r flwyddyn flaenorol o hyd i'w gadw yn had i gynyrch yr un nesaf, ac nid yw y gwahanol gyfnodau 'fu ar ei achos wedi bod yn rìiai annibynol ar eu gìlydd. Diogelwryd gweddill drwy bob gauaf du', fel y ìrae y wir eglwys wedi parhau yn ddidor o'r dechreuad. Adeg dywyll iawn ar achos yr Arglwydd oedd yr adeg bresenol. Yr oedd y genedl mor ddirywiedig fel y colçddidsyniadau isel am Dduw, a meithrinid teimladau celyd tuag ato, nes yr oedd llawer o annedwryddwch drwy y tir yn mhob man; ond dy7ma ychydig 0 ragorolion yn fTrwytho mewn sant- eiddrwydd, ac yn mwynhau cysuron crefydd mewui oes lygredig a thrallod- us. Mae yr Hen Destament felly yn cau i fyny yn debyg fel yr agorodd. A\rrth agor, dengys nos dywyll wedi ei thaenu dros y byd gan bechod, ond fod yr addewid am had y wraig yn dysgleirio ynddi, a nos dywyll fuasai ar y byd yn bresenol oni buasai fod y gwedddl yma o rajgorolion fel ser yn ei sirioli. Ychydig wellhaodd y byd dan yr Hen Destament, fel yr oedd mawr angen am y Newydd. Yr achos fod y cymeriadau'hyn yn ngweddill yn yr oes ddirywiedig hon oedd eu hymlyniad wrth yr Arglwydd. Nid ffrwryth eu rhagoroldeb oedd eu hymlyniad wrth Dduw, ond yr ymlyniad oedd yn cyfrif am eu rhagor- iaethau prydferth. Nid y dyn, ond y credadyn, sydd amlycaf yn y golwrg yma, "Yna y íhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant." Mae yn bosibl cyfarfodâ chymeriadau heirdd yn ngolwg dynion heb yr "ofni" yna, ond bydd 'diffyg yn eu gwraidd—ni ddaw natur byth yn alluog i' lanw lle gra.s. Mae ein cymeriad mewn gwirionedd yn cael ei ffurfio gan y . gwrthddrych fydd yn cael y lle mwyaf yn y çalon, a'n dedwyddwrch yn