Skip to main content

Y D YlS GEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— Rhif746.] EBRILL, 1884. [Cyf. Newydd.— Rhif 146. j^ìjlanfttatr Crçteftümígarçfíi ar EtfEçttm & By$. I. CRTSTIONOGAETH A CHAETHWASIAETH. (GAN J. ALUN ROBERTS). Cyhuddiad cyíTredin yn erbyn y grefydd Gristionogol gan ddosbarth o anffyddwyr ydyw, ei bod yn gwbl ddifraw gyda golwg ar ddyoddefaint a thrueni dynion yn y sefyllfa bresenol. Dywedir ei bod yn canolbwyntio holl feddwl a serchiadau dynion ar y byd dyfodol, fel lle y bydd holl anghyfiawnderau a tbrueni y byd hwn yn cael eu hunioni. Bod yn foddlon ar ein sefyllfa, beth bynag ydyw, a ddylem yn ol dysgeidiaeth crefydd; y mae pob cynhyrfiad i geisio ymryddhau o afaelion gormes a thrais yn anghydweddol â'r cymeriad Cristionogol. Hònir fod Iesu Grist ei hunan yn hollol ddystaw ar faterion o'r fath. Pan ymddangosodd, yr oedd gorthrwm a chreulonderau Rhufain yn annesgrifiadwy; y mae yn amheus, yn ol tystiolaeth hanesiaeth, fod y drefn gaethwasiol erioed wedi cyrhaedd y fath sefyllfa o lygredd a chreulonder ag yr oedd yn amser Iesu Grist. Ond nid ydyw efe yn dweyd gair am dani; nid yn unig ni cheir condemn- iad arni, eithr ni chydnabyddir ei bodolaeth. Ac am yr apostolion, y maent hwy yn anog y caethion i fod yn dawel a boddlongar yn eu sefyllfa. Diau fod y cyhuddiad hwn yn erbyn dysgeidiaeth y Testament Newyddyn wir mewn un golygiad, ond y mae yn hollol anghy wir mewn ystyr arall, ac hefyd yn gwbl groes i hanes Cristionogaeth. Ni raid bod yn hir yn chwilio am y rheswm o ddystawrwydd y Gwaredwr, ac anogaethau yr apostolion. Amcan mawr Iesu Grist oedd sefydlu teyrnas oedd yn canol- bwyntio ei holl nerth ar bersonau unigol. Nid sefydlu deddfau cymdeith- asol a pholiticaidd fel y cyfryw, nid gosod i lawr ffurfiau o lywodraeth.au tymhorol. Dysgeidiaeth a threfn ar gyfer dynion yn bersonol ydoedd Trefn y byd o gael gwared anghyfiawnderau ydywr, trwy geisio deddfu ar gyfer dynion yn eu cysylltiad cymdeithasol; ond trefn lesu Grist ydyw gweithio ar gydwybod a chalon personau unigol. Yr oedd sefyllfa bolitic- aidd a gwladwriaethol y byd paganaidd, yn ei ffurf uwchaf, wedi aberthu yr unigol i'r cyffredino), y personol i'r cymdeithasol; a thrwy hyny nid oedd hawhau dynion, fel y cyfryw, yn meddu y gradd lleiaf o gysegredig- rwydd. Dymayr egwyddor oedd wedi arwain i greulonderau caethwasiaeth. Hanfod hòno ydoedd, ei bod yn hollol gyfreithlon i aberthu un dosbarth o'r boblogaeth i foddloni chwantau a buddiant dosbarth arall. Ond y mae y Gwaredwr ar unwaith yn trafod dynion ar y tir eu bod yn gyfrifol bersonol, ac nas gallant drosglwyddo y cyfrifoldeb hwn i neb arall—