Skip to main content

Y DY8GEÜYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.— Rhif 745.] MAWRTH, 1884. [Cyf. Newydd-Riiif 145. MAT. XVI. 18. GAN DEWI MON, AEERHONDDU. Gofyniad llwythog o }^styr oedd hwnw a ofynodd Crist i'w ddysgybiion yn nhueddau Óesarea Philippi; " Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i, Mab y dyn?" Nid anwybodaeth a barai iddo ofyn; oblegid gwyddai bob peth i berffeithrwydd; yr oedd yn hysbys nid yu unig o ddywediadau dynion, ond o feddyliau cuddiedig eu calonau. Gawn fod Crist ar rai adeg au hir-gofledig yn gofyn gofyniadau i ddybenion penodol; megys ar làn môr Galilea, pan ofynodd i Pedr dair gwaith yn olynol, a oedd efe yn ei garu. Felly yraa; dengys yr hanes fod dyben y gofyniad yn llawer dyfn- ach na chael atebiad gan y dysgyblion. Nid pryder afiachus yn nghylch syniadau dynion am dano ychwaith a birai iddo ofyn; oblegid credwn nad oedd efe, o'i ran ei hun, yn maliaw gronyn beth oedd syniadau y weriu an- sefydlog a ymgynullent at eu gilydd i'w feirniadu. Prawf o wendid dir- mygus mewn dyn yw ei fod ar ol pob cyfiawniad o'i eiddo, yn sychedu am gymeradwyaeth ffyüaid, ac yn tori ei galon os na ddygwydd iddo ei gael. Mae dynion gwir fawr rai prydiau wedi gorfoleddu yn ngwrthwynebiad y lluaws, oblegid fod hyny yn brawf adnewyddol iddynt o uniondeb eu hachos. Gwyddent fod geiriau y Duw-ddyn yn gorphwys ar sylieini tra- gwyddol, " Gwyn eich byd pan y'ch casao dynion, a phan y'ch didolant oddiwrthynt, ac y'ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megys drwg, er mwyn Mab y dyn. Byddwch lawen y dydd hwnw, a llemwch: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef, oblegid yr un íiunud y gwnaeth eu tadau hwynt i'r prophwydi." " A. hwy a ddywedasant, Rhai, mai Ioan Fedyddiwr, a rhai, mai Elias, ac eraill, raai Jeremiap, neu un o'r prophwydi." Nid barn y Phariseaid a'r Saduceaid a fynegir yma, oblegid ni ystyrient hwy ef yn brophwyd o gwbl; ond arferent yn hytrach ei oganu, gan ddywedyd, "Wele ddyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid." Tebygol gan hyny mai yn mysg y bobl gyffredin y ffynai y dychymygion hyn. Parch byth i'r bobl am ymddyrchafu uwchlaw eu harweinwyr. Nid yn fynych yn wir ycymer y fath beth le—unwaith mewn cm' mlynedd, fe allai—ond pan gymer le, dylai gael ei gofnodi gydag edmygedd. " Ef'e a ddywedodd wrthynt, Ünd pwy meddwch chwi ydwyf fi?" Ië, dyna oedd yn bwysig iddynt hwy wedi'r cyfan, nid tybiau pobl eraill, ond eu syniadau hwy eu hunain. " A Simon Pedr a atebodd, ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Duw byw. A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho,,