Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—Rhif 744.] CHWEFROR, 1884. [Cyf. Newydd—Rhif 144. GAN Y PARCH. THOMAS REES, D.D., ABERTAWE. Anwyl Frawd,—Yn fy nghystudd diweddar, pan yr oedd fy ysgyfaint a'm hymenydd yn cael eu berwi gan enyniad y dwymyn, daeth y geiriau, " Llosgodd y fegin," yn rymus iawn i fy meddwl. Wedi i mi ddyfod ychydig i'm pwyll, a dechreu gwellâu, penderfynais geisio gwneud pregeth arnynt. Ar ol cíywed am farwolaeth fy hofíus gyfaill Dr. William Rees, gyda'r hwn y bum yn cymdeithasu yn dra mynych yn ystod y naw mlynedd a deugain diweddaf, daeth yr ymadrodd drachefn yn fwy grymus fyth i'm meddwl. Cyfansoddais y sylwadau canlynol, athraddodais nwy nos Sabbath, Tachwedd 18fed, yr ail Sabbath wedi i mi ddechreu pregethu ar ol fy nghystudd. Os bernwch hwy yn deilwng o le yn y Dysgedydd, wele hwy at eich gwasanaeth. Yr eiddoch yn frawdol, Abertawe, Rhag. 20, 1883. " Thomas Rees. " Lloegodd y fegin; gan dân y darfu y plwm; yn ofer y toddodd y toddydd: canys ni thynwyd y rhni drygionus ymaith," JBR. VI. 29. Mae y prophwyd yma yn cymharu y bobl y llafuriai yn eu mysg fel cenad yr Arglwydd i fwn (ore) y tybid fod arian ynddo. Darlunia y mwn yn cael ei roddi yn y ffwrnes, a phlwm gydag ef, er cario ymaith y sorod, a megin i chwythu y tân, er cynyrchu digon o wres i'w doddi. Yn lle cyrhaedd yr amcan mewn golwg, difëir y plwm gan y tân, a llosga y fegin yn angerdd y gwres, tra y mae y mwn yn aros o hyd heb ei doddi o gwbJ. Darluniad cywir a tharawiadol iawn o galedwch digyffelyb calonau dynion anedifeiriol, ac aneffeithiolrwydd amrywiol weinidogaethau yr Arglwydd i'w toddi a'u puro. Sylwer— I. Fod yr Arglwydd yn defnyddio offerynau a moddion cyfaddas IAWN AT GYFNEWID A DIWYGIO PECHADURIAID. Nid oes dim cyfaddasach at doddi mwn na thân mewn ffwrnes, a megin gref i chwythu arno: "Y tawddlestr i'r arian, a'r ffwrnes i'r aur." Mae y cystuddiau a esyd yr Arglwydd ar ddynion, marwolaethau yn eu teulu- oedd, siomedigaethau a cholledion yn eu galwedigaethau, yr ainry wiol ofid- iau eraill y maent yn agored iddynt, yn nghyda rhybuddion a bygythion taranllyd ei Air, oll fel cynifer o farwor tanllyd, wedi eu hamcanu i doddi pechaduriaid i edifeirwch. Llais pob goruchwyliaeth chwerw a bygythiad ydyw, "Gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd." O'r tu arall, y mae y Creawdwr grasol yn pentyru ei drugareddau o ddydd i ddydd, ac o flwyddyn i flwyddyn, ar benau ei greaduriaid gwrthryfelgar a drwg, gyda'r amcan i "Olud ei ddaioni ef, a'i ddyoddefgarwch, a'i ymaros, i'w tywys i edifeirwch." Mae hefyd wedi llenwi ei air âg addewidion mawr iawn a gwerthfawr, y rhai oll sydd yn ei Fab yn ìe ac yn amen i'r penaf o bechaduriaid. Ac yn ychwanegol at y pethau hyn oll, y mae, o oes i oes, wedi cyfodi dynion o athrylith, hyawdledd, gweithgarwch, a duwioldeb angerddol, fel cynifer o