Skip to main content

Y D Y S GED YD D: a'r hwn yr unwyd "m annibynwr." Hen Gyf.—Rhif 743.] IONAWR, 1884. [Cyf. Newydd—Rhif 143. GAN GWALCHMAI. Er mwyn cael golwg led gyflawn ar ei dalentau amrywiaethol, rhagoriaeth- au ei alluoedd meddyliol, a'i yni corfforol, yn gystal ag eangder cylch ei ymdrechion llenyddol a moesol, y mae yn rhaidi ni edrych arno owahanol gyfeiriadau. Yr oedd y deml gynt wedi ei hadeiladu ar fynydd Seion, yn uchel ac amlwg i bawb, ond yr oedd yn rhaid myned o'i hamgylch i rifo ei thyrau, ystyried ei rhagfuriau, ac edrych ar ei phalasau, cyn y gallesid gweled gogoniant yn ei chynlluniau, na dirnad cadernid ei sylfaeni. Fellyy gellir dywedyd am Gwilym Hiraethog, nid o un pwynt yn unig y gallwn weled ei ragoriaethau, y mae'n rhaid i ni dremio arno o wahanol sefyllfaoedd, ac ar amrywiol gyfnodau o'i oes. Yr oedd Caledfryn yn cyhoeddi y "Sìjhuedydd" mewn rhifynau misol, yn Llanerchymedd, yn y nwyddyn 1831. Torodd yr argraffwasg i lawr ar ganol y fiwyddyn, a bu raid iddo fyned i Gaernarfon er cael gorphen y gyfrol, yr hyn a fu yn achlysur i'w arwain i symud o'r dref fiaenaf ì'r olaf. Yn y cyhoeddiad hwnw y gwelsom farddoniaeth ein harwr gyntaf erioed, dan yr enw " William Rees, Llansannan." Tra yn Llanerchymedd fel gweinidog gyda'r Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1830, ar y lawnt o flaen capel y Bedyddwyr, cynelid Cymanfa yno, a gwahoddodd Caledfryn eí yno i bregethu. Dywedodd ychydig o'i hanes wrth yr ysgrifenydd, ac am iddo fod yn sicr o ymweled âg ef. Yr oedd yn lletya yn nhy Mr. I>avid Aubrey, taid ^Meilir Mon, ac íelly fu, ar noswaith gyntaf y cyfarfod, ac wedi cael ymddyddan go faith, dywedodd— " Hiraethog, mae'n hwyr weithion," ac atebodd yntau yn barod, y mae " Yn siwr ofyn'd yn sir Fon." Yr oedd yr olwg ar Mr. Rees yn dra gwledig, a'i wisg yn bur gyffredin a Chymreig, llodrau penglin a socasau hirion, brethyn cartref, &c, fel nad allasai neb heb ei adnabod feddwl ondychydigiawn o hono; pafodd bynag, yr oedd ei letywr wedi credu mai efe oedd dyn penaf y Gymanfa. Wrth weled yr olwg aílerw oedd arno, dywedodd un boneddwr, sef Mr. Owen, Tre-wyn, ei fod yn synu at chwaeth Caledfryn, wedi deall mai efe a fyddai yn pregethu olaf am ddeg o'r gloch, ei fod yn dwyn un o ddynion chwech o'r glocli y boreu gerbron ar yr awr fwyaf cyhoeddus o'r Gymanfa. Pan y cyfododd i fyny, ac y daeth at y ddesg i agor y Beibl, yr oedd pawb yn edrych arno yn grafî, a rhai megys yn tremio trwyddo, ac mewn dychymyg yn ei fesur a'i bwyso yn fanwl iawn. Yr oedd yn lled dal o ran corffblaeth,