Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD (<YK ANNIBYNWR.', ♦ '«'♦ 0^ Sugaií-Jfr^nttt a'rç fêugatl-Bt£e0çffyhrç** GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. "Etholodd hefyd Dafydd ei was, ac a'i cymerth o gorlanau y defaid: oddiar ol y defaid cyfebron, y daeth ag ef i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth. Yntau a'u porthodd hwynt yn ol perffeithrwydd ei galon ; ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylaw."— Salm lxxviii. 70—72. Mae yr hanes a geir yn y Salm hon yn un a adroddir yn aml iawn yn yr Ysgrythyrau. Aeth Moses drosti lawer gwaith yn ei fywyd, a dyma oedd baich ei gân olaf cyn marw. Adroddodd Josuah hi wrth y llwythau yn Sichem, a clygodd Samuel hi i gof y rhai a wrandawent arno. Aeth Stephan drosti yn fanwl gerbron y cynghor, a Paul, pan gafodd gyfle i draethu gair o gynghor i'r bobl yn Antiochia yn Pisidia. Ünd yn llyfr y Salmau y cyfeirir ati fynychaf, ac y mae mor gyflawn yma ag y ceir hi yn un man. Mae yn rhoddi golwg ryfedd ar ddirywiad a llygredigaeth y genedl, a hyny yn ngwyneb y mwynhad o'r breintiau uchaf; ac y mae y desgrifiad a roddir yma o ddigllonedd yr Arglwydd, am gymeryd yr arch o Siloh, nid i ddychwelyd yno mwy, a'r farnedigaeth a fygythir mewn canlyniad, nes y deffrodd yr Arglwydd "fel un o gysgu, fel cadarn yn bloeddio wedi gwin," yr etholodd lwyth Judah, ac y rhoddodd Dafydd iddynt yn frenin, yn un o'r rhai mwyaf byw a chynhyrfus yn yr holl Feibl. Mae y testun yn cyfeirio at ddewisiad Dafydcl gan Dduw i wneud gwaith mawr drosto, a'r modd llwyddianus y cyflawnodd yr ymddiriedaeth a roddwyd iddo. Galwad y bugail i focl yn frenin sydd yma, ond y mae y bugail-breg- ethwr yn gystal a'r bugail-frenin. Nid Dafydcl oedd yr olaf a gymerwyd o "gorlanau y defaid, oddiar ol y defaid cyfebron, i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth," ac nicl efe oedd yr olaf ychwaith "a'u porthodd hwynt yn ol perffeithrwj'dd ei galon, ac a'u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylaw." Mae dau amgylchiad nodedig wedi cyd-ddygwydd, sydd wedi fy arwain at y testun hwn heno. Ddoe yr oedd pedwar can' mlwyddiant dydd genedigaeth Martin Luther—y dyn a gododd Duw i gynyrchu y di- wygiad mwyaf a g/merodd le er yr ymddangosodd Crist yn y cnawd. A dydd Iau diweddaf, bu farw "y tywysog a'r gwr mawr yn Israel." yr Hy- barch Dr. William Rees—un o gedrwydd mynydcl Duw, a dydd Mawrth nesaf, rhoddir ei weddillion i orwedcl yn mynwent Smithdown road. Yr oedd efe a Martin Luther mewn llawer o bethau yn dwyn tebygolrwydd. Mae cyd- ymdeimlad dwfn rhwng dynion a'u gilydd o ran eu hegwyddorion, er heb * Traddodwyd y bregeth uchod yn y Tabernacl, Liverpool, nos Sabbath, Tachwedd lleg; a chan fod llawer wedi amlygu dyrauniad i'w gweled yn argraffedig, cyhoeddir hi yn y Dysgedydd. Rhagfyr, 1883. 2l