Skip to main content

î DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." -♦♦♦♦♦■ Un o beryglon mwyaf dyn yw rhedeg i eithafion wrth ffurfio barn oddiar deimlad anianol. Cymer cyfeillion olwg mor dyner ar eu gilydd, fel y cuddiant feiau, y lleihant ddiffygion, ac y gorliwiant rinweddau y sawl a garant. Cymer gelynion olwg mor llym a chwerw ar eu gilydd, fel y gwadant ragoriaethau, y mwyhant ffaeleddau, ac y dangosant bob bai i'r anfantais fwyaf i'r cyfryw na charant. Gweithia y ddau ddosbarth bethau i eithafion, ond y mae llai o berygl yn y cyntaf na'r diweddaf. Gall beiau dyn fod mor lluosog yn gyferbyniol i'w rinweddau, fel y byddai yn orchest o eiddo gras i ddwyn eraill i'w garuj a gall rhinweddau un arall fod mor lluosog yn gyferbyniol i'w feiau, fel y byddai yn orchest o eiddo pechod pe gallai lwyddo i grëu gelyniaeth ddofn ato. Ond pe llwyddid i ddarostwng y diweddaf yn ddirmyg pobl, fe gliriai y cwmwl yn mhen ychydig, gan fod rhinwedd yn cymeradwyo ei hun i bob meddwl dirag- farn; a phe llwyddid i ddyrchafu y cyntaf i safle nad yw yn deilwng o honi, byddai yn sicr o gael perffaith gyfiawnder gan gymdeithas yn mhen ychydig. Nis gall cymdeithas gario impostors ar ei hysgwyddau yn hir iawn, na goddef i'r pur a'r cywir fyw dan anfanteision oddiwrth genfigen a brad. Nid y\v cyfaill a gelyn ond elfenau yn chwareu yn nheimlad llawer dyn—ymddangosiadau twyllodrus, tyb wag, cynhyrfiadau nwydau aflyw- ' odraethus; ac felly yn hollol amddifad o un gwir reswm am ddim a gyflawna. Nid yw moliant llawer ond sham—nis gallant werthfawrogi am na feddant farn; ac nid yw condemniad eraill ond iaith ysbryd trahaus, ac ni roddir pwys ar eu lleferydd gan neb a'u hadwaen. Ond dylid cofio fod terfynau yn bod. Ai chwareu ar dànau teimlad yn unig y mae rhinwedd a bai? Ai cymeradwyo neu aaghymeradwyo eu hunain i nwydau y mae santeidd- rwydd a phechod? Ai ni ddylai dyn, yr ymostyngodd Duw i roddi iddo reswm am yr hyn a ofyna ganddo, fod yn ddigon mawr i roddi rheswni am yr oll a gyflawna? Cymerir golwg ysgafn, gellweirus, ar rai pechodau gan ddosbarth o ddynion; ac nid yw eu bywydau ond esboniad allanol ar deimladau eu calonau, syniadau eu meddyliau, a gogwyddiadau llygredig eu hysbryd- oedd. Ddarllenydd, a elli di bontio yr adwy sydd rhwng y ddau air uchod? A elli di gymeryd i fewn yr elfenau gwahanol a gynrychiolir ynddynt? A welwyd eithafion pellach Avedi cyfarfod? Rhoddai yr Apostol Pedr yr uchod yn gyhuddiad yn erbyn dynion pechadurus yn ei oes ef, a gellir syrthio iddo eto; ac y mae gogwydd ato yn arwydd anffaeledig o ysbryd gwrthgiliedig oddiwrth Dduw. Y mae cydymdeimlad â daioni yn codi allan o santeiddrwydd calon, ac y mae purdeb calon yn santeiddio teimlad, chwaeth, ac iaith dyn. Gellir bod yn greulawn heb ladd, yn aflan heb ymdrybaeddu mewn pob pechod, ac yn llygredig ein geiriau heb arfer Uwon a rhegfeydd. Mae y gwahaniaeth sydd rhwng cymdeithas a gwir- GORPHENAF, 1883. U