Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWTD "YR ANNIBYNWR." ♦'!■♦ Ymiídangosodd llythyr cyffrous a dyddorol oddiwrth Mr. John yn y Ghnstian World am Ebrill 19. Gwn fod Mr. John yn awyddus i garedigion yr achos cenadol yn Nghymru wybod ei hanes, ac felly yr wyf yn ei gyfieithu, a thrwy garedigrwydd y Grolygwyr, yn ei gyflwyno i sylw darllenwyr y Dysgeoydd, gan wybod y bydd darllen am ei antunaethau a'i beryglon yn íbddion i gyffroi eu cydymdeimlad a'u gweddiau drosto. B. WlLLIAMS. Bydd crynodeb byr o hanes ymweliad a delais yn ddiweddar â Hunan yn dra dyddorol i'ch darllenwyr. Gwna yr adroddiad canlynol roddi iddynt agoriad i weled sefyllfa bresenol pethau yrj y Deyrnas Ganolog, a thaflu ychydig oleuni ar sefyllfa wleidyddol, cymdeithasol, a moesol pobl China yn gyflredin. Gwna hefyd eangu eu golygiadau am y rhwystrau ydynt ar ffordd y Cenadwr yn ei ymdrechion yn planu Pren y bywyd yn y fath dir a hwn, ac efallai i alw allan gydymdeimlad dyfnach a mwy deallus âg ef yn ei lafur mawr i ddwyn yn mlaen y fath waith aruthrol. TALAETH ARDDERCHOG. Gadewais Hankow yn nghwmni Mr. Archibald, swyddog y National Bible Society of'Scotland, Ion. 8, a dychwelais Chwef. 4. Y l]e pellaf yr aethum iddo oedd Chang-te, un o'r dinasoedd mwyaf yn yr ymerodraeth, a phellder o Hankow tua 350 o filldiroedd. Wrth dalu yr ymweliad hwn â thalaeth Hunan, yr oedd genyf ddau amcan mewn golwg. 1. Yr oedd arnaf angen cael taith bregethwrol dda. 2. Yr oeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth tuag at agor i fyny y dalaeth ardderchog hon yn fwy effeithiol i îafur cenadol. Mae Hunan yn dalaeth ragorol ac yn teilyngu ein hym- drechion goreu. Mae yn orlawn o gynyrchion amaethyddol ac o adnoddau rawnawl. Mae ei thrigolion yn gymharol wrol a diddichell. Meddant gymeriad mwy penderfynol na phobl y dalaeth hon(Hupeh). "Mae dynion Hupeh," medd pobl Hunan, " wedi eu gwneud o gaws ffa, ond mae pobl Hunan wedi eu gwneud o haiarn." Mae darostyngiad gwrthryfel Tai-ping i'w briodoli yn benaf i ddyfais a dewrder pobl Hunan. Gwelir pobl y dal- aeth hon yn mhobman yn llenwi y swyddi pwysicaf yn y wladwriaeth ac yn y fyddin. Yr oedd Tseng Kwofan fawr, tad y llysgenadydd Chineaidd presenol yn Lloegr, yn frodor o Hunan, felly mae Tso, prifysgrifenydd a gorchfygwr Rashgar; Kwo, y llysgenadwr cyntaf a antonwyd gan China i Loegr; a Peng, llyngesydd enwog yr Yangtsze, ac amryw eraill o ddynion enwog tra adnabyddus. Mae yn y dalaeth yn bresenol luaws o ddynion yn gwisgo botymau cochion ynmhlith swyddogion ymneillduedig, ac y maç Mehefin, Í883. R