Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd «yr annibynwr." GAN W. S. CAINE, YSW., A.S. [Yagrifertwyd yr ysgrif ganlynol yn bwrpasol ar gyfer y Dysgedydd, a chredwn y darllen- ir hi gyda dyddordeb dwfn gan ein miloedd daillenwyr, fel ffrwyth meddwl addfed ao argyhoeddiadol un o apostolion cadarnaf yr achos dirwestol.] Siomedigaeth fawr a gafodd pleidwyr dirwest yn Nhy y Cyffredin, a thrwy y wlad, am nad ydoedd un cyfeiriad yn Araeth ddiweddaf y Fre- nhines at y cwestiwn dirwestol mewn unrhyw arwedd arno. Yr oedd y ffaith fod Dewisiad Lleol (Local Option) wedi ei gymeradwyo ddwywaith gan y Ty presenol, a hyny gyda mwyafrif sylweddol a chynyddol—fod Mesur Cau y Tafarnau ar y Sabbath wedi ei gadarnhau gan fwyafrif cyffelyb,—yn nghyda'r datganiadau a wnaed yn y Ty, ac allan o hono, gan aelodau o'r Cyfringynghor, yn naturiol wedi codi dysgwyliadau diwygwyr dirwestol. Un o ddyddiau cyntaf y ddadl ar yr Araeth, rhoddwyd gofyniadau i'r Ysgrifenydd Cartrefol yn dwyn cysylltiad â'r pwnc o ddeddfwriaeth ddir- westol. Y cyntaf—un gelyniaethus— gan Syr Richard Cross, y diweddar Ysgrifenydd Cartrefol, yn gofyn hysbysrwydd o berthynas i'r safle a fwr- iadai y Llywodraeth gymeryd tuag at y gwahanol Fesurau ar Gau y Tafarnau ar y Sabbath, rhybuddion o ba rai a roddid y dydd blaenorol. Y llall gan Syr Wilfrid Lawson, yn gofyn i'r Ysgrifenydd Cartrefol a oedd yn mwriad y Llywodraeth, yn ystod yr eisteddiad presenol, i ddwyn i mewn Fesur o Ddewisiad Lleol, ar yr egwyddor y penderfynwyd arni ddwywaith gan y Ty. Atebion yr Ysgrifenydd Cartrefol mewn effaith oeddynt,—0 berthynas i Gau ar y Sabbathau, mai bwriad y Llywodraeth ydoedd parhau i fyned rhagddi yn yr un cyfeiriad ag a gymerwyd gyda'r Mesurau Gwyddelig, Cymreig, a'r un i Cernyw—nad oedd gan y Llywodr- aeth un gwrthwynebiad i ddeddfwriaeth ranol ar fater oedd yn hollol yn gwestiwn o arwynebedd, ac un y gellid ystyried y gwahanól gymydogaeth- au y beirniaid goreu arno. Mewn atebiad i Syr W. Lawson, dywedodd fod y cwestiwn yn yr hwn y cymerai yr aelod dros Carlisle y fath ddyddordeb dwfn, yn hanfodol yn un o bwysigrwydd lleol, ac yr ymdrinid âg ef yn yr adran hòno a berthynai i lywodraeth leol. Cafwyd hysbysrwydd pellacli gan yr Ysgrifenydd Cartrefol fod yn mwriad y Llywodraeth i ddelio â'r cwestiwn trwyddedol yn y Brifddinas yn nglŷn â'r Mesur dyfodol ar Ddi- wygiad Bwrdeisiol, ac y dysgwylid i'r ddadl ar y Mesur hwnw daflu llawer o oleuni ar y cwestiwn o Ddewisiad Lleol, o berthynas i'w estyniad i'r holl wlad, pan y deuai y pwnc o lywodraeth leol i gael ei ystyried. Ni chafwyd erioed o'r blaen y fath ddatganiadau eglur o olygiadau y Llywodraeth ar y cwestiwn trwyddedol. Eglur ydyw fod yn eu bwriad i Mai, 1883. % N