Skip to main content

Y DYSGEDTDÜ a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." GAN Y PARCH. D. M. JENKINS, LIYERPOOL. Mae yr arddangosiadau a ddynodantweithrediad yr hyn a elwir cydwybod yn y meddwl, i'w canfod yn gyffredinol yn mywyd dyn, beth bynag fyddo ei sefyllfa ef mewn gwareiddiad. Pa mor anmhenodol bynag fyddo y ddirnadaeth sydd ganddo am Dduw, pa mor aneglur bynag fyddo y syniad sydd ganddo am ddeddf uwch ei natur. a pha mor eithafol bynag fyddo y camsyniad a goledda gyda golwg ar gymeriad gwirioneddol unrhyw weith- red benodol, mae y ffaith ei fod o hyd yn ymsynied am wahaniaethau moesol mewn ymddygiadau yn cael ei chydnabod gan yr athronwyr mwyaf anfFyddol, yn gystal a'r rhai mwyaf crediniol. " Y mae pawb dynion," ebe Butler, " a phob cyfundraethau yn cyduno mewn perthynas i'r ffaith o ganfyddiadau moesol." A chydnabydda hyd yn nod Mr. Darwin, "O'r holl wahaniaethau sydd rhwng dyn a'r anifeiliaid israddol, mai y pwysicaf o lawer (ac felly yr anhawddaf i'w gyfaddasu at athrawiaeth dadblygiad, fel yr esbonir hi ganddo ef), yw y synwyr moesol, neu y gydwybod. Nid yw yr evolutionist mwyaf penderfynol yn liòni ei fod wedi cael allan ddyn hanesyddol mewn unrhyw genedl, ac y mae ei feddwl yn gwbl amddifad o'r arddangosiadau hyn. Ond, a chaniatau fod dyn yn mhob oes a gwlad yn adnabod gwahaniaethau moesol yn ei ymddygiadau, beth yw y sylfaen ar ba un y mae y gwahaniaethau hyn yn gorphwys 1 Beth yw natur y gallu rhyfedd sydd yn registro y gwahaniaethau hyn yn y meddwl ? a pha beth yw terfynau priodol ei weithrediadau 1 Dyma gwestiynau ag y bodola yr amrywiaeth mwyaf eithafol yn mysg meddylwyr gyda golwg arnynt. Ac wrth i ddyn geisio ymhvybro tuag at syniad clir am y pwnc, er mwyn cael atebion boddhaol i'r cwestiynau hyny, y mae fel teithiwr ar ganol mynydd agored, ag unrhyw nifer o lwybrau defaid yn croesi eu gilydd o flaen ei lygaid o bob cyfeiriad, ond heb un ffordd frenhinol yn eu plith i ddangos iddo yn sicr pa ochr i'r mynydd mae y ddinas yr ymofyna am dani yn gorwedd; ac nid oes iddo ond tynu cyfeiriad goreu y medro oddiwrth ogwyddiad cyffredin y bryniau, a rhediad naturiol y dyffrynoedd a'r afonydd. Ar gychwyniad ein hymchwil, cyfarfyddwn â dwy ysgol fawr o feddyl- wyr; y rhai a ddaliant athrawiaethau hollol wrthwynebol i'w gilydd gyda golwg ar darddiad y syniadau a'r teimladau moesol yn y meddwl, a chyda golwg ar natur yr awdurdod a berthyn iddynt. Dysga y naill o'r ysgolion hyn mai cynyrch gallu cynhenid o eiddo y meddwl ei hun ydynt, a bod yr awdurdod sydd yn nglŷn â hwynt yn arbenig a goruchel. Dysga y llall mai effaith profiad ydynt, wedi ei gynyrchu yn gwbl gan deimlad y synwyrau dan weithrediad deddf cymdeithasiad (the law of associatiorì), a bod yr awdurdod MAWRTH, 1883. Q