Skip to main content

Y DYSGEJJYDü: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." YSGRIF II. GAN L. PROBERT, PORTHMADOG. " Yr Aipht oedd cryd aur y gwybodau, medd hanes, A'r deyrnas gadarnaf yn nghynoes y byd; Ac hon oedd cryd haiarn caethiwed a gormes, Lle magwyd rhwysgfawredd, a gorthrwm, a gwŷd." Sylfaenai yr Aiphtiaid eu crefydd, fel y dwyreinwyr yn gyffredin, ar wrthddrychau mwyaf nerthol natur. Addolid yr haul, a'r ser, a'r lloer, a'r afon, a'r gwahanol wrthddrychau a ystyrid yn meddu nerth an- wrthwynebadwy. Gan mai nerth oedd prií nodwedd gwrthddrych addoliad, ofn oedd gwedd amlycaf y teimlad addolgar. Effeithiai hyn yn fawr ar wladlywiaeth y dwyrain. Yswatiai y bobl wrth draed unrhyw deyrn neu gadlywydd a ddangosai nerth anghymharol. Dyna y fath wladgarwch a ddysgai eu crefydd iddynt—cryuu o flaen nerth. Cyfrifa hyn am oresgyniadau eang Sesostris, Nebuchodonozor, Cyrus, ac Alexander. Wrth enill un fuddugoliaeth, taenent eu dychryn yn nihell. I gael meddiant o wlad wedi hyny, nid oedd ganddynt lawer i'w wneud heblaw ' cerdded y tir." Pe buasai cyfiawnder yn elfen mor amlwg a nerth yn eu haddoliad, buasai yn fwy o orchwyl eu gosod dan deyrnged. Er cael ei tharo i lawr, buasai ynddi rywbeth a barasai iddi ymgodi drachefn, " Cyfiawnder a ddyrchafa genedl.'' Yr elfenau amlycaf yn nghrefydd yr Aiphtiaid oedd nerth ac ofn, ac felly aeth eu gwlad yn " gryd haiarn caethiwed a gorthrwm." Ond os bu eu crefydd yn niwed gwladol, bu yn fantais wyddorol iddynt. Tueddai crefydd y dwyreinwyr i'w cadw i fyfyrio natur. Codai y Persiaid eu golwg yn ddefosiynol at lu y nef wrth wylio eu praidd liw nos rhag creaduriaid rheibus y ddaear, nes iddynt gasglu llawer o wybodaeth am symudiadau y ser. Cadwai yr un teimlad crefyddol sylw yr Aiphtiaid ar y cyríf wybrenol; a pharai eu llwyr ddibyniad ar y Nile iddynt ymdrechu deall yr arwyddion a effeithient ar ei gorlifìad a'i thrai. "Arwyddiou y tywydd" oedd " arwyddion yr amserau" iddynt hwy, fel yr aeth eu gwlad yn * gryd aur y gwybodau." Dengys arwyddion y sidydd, a gafwyd ar nenfwd teml Dendera, fod gwybod- aeth seryddol yn eu meddiant yn foreu iawn. Diamheu mai y wybodaeth hon yn benaf a ffurfiai gyfrinion a dysgeidiaeth oraclau yr offeiriaid. Fel y bu gwastadrwydd y wlad yn foddion i beri i'r Aiphtiaid i godi adeüadau mawrion yn addurniadau iddi, yn gystal ag ÜHWBFROR, 1883. D