Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." gan y parch j. alun roberts, b.d., caernarfon. ' FELLY nyni a'adeiladasom y mur: a chyfanwyd yr holl fnr hyd ei haner: canys yr oedd gan ỳ bobl galon i weithíó."—Neh. iv. 6. Un o elfenau hanfodol llwyddiant mewn cysylltiad â phob symud- iad mawr a phwysig yn hanes egíwys Dduw ydyw gwasanaeth ar- weinydd da a galluog. Nis gall gwirioneddau ae egwyddorion noeth gymeryd gaíael dwín iawn yn meddyliau dynion. GaÜant, y mae yn wir, roi llawer o foddhad a phleser i feddyliau athronyddol ac ym- chwiliadol, ond nis gallant gynyrchu brwdfrydedd ymarferoL Yr ydym yn cael, gan hyny, íbd yr Arglwÿdd yn mhob cyfnod neillduol yn hanes ei achos, yn darparu cymeriadau arbenig i fod yn gorffoliad byw o'r gwirioneddau a'r amcanion perthynol i'r cyíryw amseroedd. Yn awr, yn mhob gwir arweiuydd, yr ydym yn dysgwyl cael y nod- weddion canlynol:— 1. Bhaid i'r gwir arweinydd fod wedi éi ddonio â galluoedd naturẁl cryfèon. Y mae rhai dynion wedi eu geni i arwain a théyrnasu, a rhaid i bob brenin gwirioneddöl gael éi eni yn frenin, neu ynte nis gall deyrnasu ac arwaiu yn effeithiol. Gwyrth fyddai i ddyn o feddwl a chyrhaeddiadau gwan íbd yn arweinydd dýlanwadol; rhaid i ddyrÜon gael arweinydd y gallant ymddiried ynddo, ac edrych i fyny ato, ond nis gallant wneud hyny mewn cysylltiad â dyn cyffredin ei fedd- wl, a byr ei gyrhaeddiadau. Ac y mae hanes yr eglwys yn mhob cyf- nod yn dangos fod Duw yn talu gwarogaeth i'r ddeddf hon; nid dynion egwan sydd wedi eu nodi allan ganddo fel arweinwyr, nid ydyw erioed wedi gwario adnoddau dwyfol i wneud rhai felly yn gymhwys i lenwi cylchoedd nad oeddynt wrth natur ddim wedi eu tori allan iddynt Cafodd Moses oes dda o barotoad, dygwyd ef i fyny yn holl ddysgeid- iaeth yr Aipht, a bu am amser yn nhir Midian, yn cael ei ddarparu i'r gwaith o arwain y genedl i wlad yr addewid. Ond nid dyn gwan oedd Moses, yr oedd wedi ei ddonio yn naturiol i'r gwaitL Y mae ei hanes yn dangos ei fod yn gryf a chraff ei feddwl, ac yn feddianol ar lareidd-dra tymher oedd yn hanfodol i drafod pobl fel yr Hebreaid pan y daeth- ant o'r Aipht. A phan fu Moses farw, gosodwyd yr arweinyddiaeth ar Josuah, nid fel mater o fympwy, ond am y rheswm mai efe oedd y milwr dewraf, ac am mai gwaith milwrol oedd yn angenrheidiol i orch- fygu preswylwyr Canaan. Yr oedd Josuah yn filwr wrth natur. An- rhydeddwyd ef gan Moses fel y cyfryw, enillodd frwydrau pwysig, ac yn mhob ystyr dangosodd fod y dalent yn filwrol yn annhiaethol gryfach IONAWB, 1883. A