Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A'll HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWU." GAN L. P. Er fod yr Tuddewon yn wasgcaredig ar hyd y gwledydd o dan farn Duw, nid ydym heb sail i ddysgwyl am adferiad i grwydredig ddefaid ty Israel. Nid dinystr ydyw yr aincan terfynol i ymdrafodaeth Duw â dynion; ac felly gosododd ef ryw allu adlerol neu gilydd yn ei holl drefhiadau. Wedi i'r gwres achosi cynhwrf yn yr awyr, a'r awyr der- fysgu y môr, nes bydd cyífro yn mynwes anian, dechreua y gronynau oerion oeri y rhai poethion, nes yn raddol daw yr awyr i'r un dymher- edd, atheyrnasa tawelwch mawr ynlle tymhestl flin. Medda hyd yn nod natur ddifywyd ryw nerth i ymadferu o'i thwymynau, tebyg i'r gallu sydd yn y corff dynol i ymiachâu o'i glefydau. Er fod marwol- aeth yn symud bodau by w yn barhaus o'r byd, ymddengys eraill yn eu lle, a phery y rhywogaethau mewn cydbwysedd, fel y mae un o ddwylo Rhagluniaeth o hyd yn rhoddi, os ydyw y llall yn cymeryd ymaith. Os dirywiodd dynion mewn ystyr ysbrydol drwy eu pechod, fe ddar- parodd Duw iachawdwriaeth i'n hadferu, ac mae y ffaith ei fod yu ddigon tyner i nyddu allan amser i'r genedl Iuddewig yn ddigon o brawf ei fod yn bwriadu gwneud rhyw ddefnydd daionus o honi eto. Ehoddodd unwaith ei freintiau crefyddol i'r cenedl-ddyn, fel y rhodd- odd Abraham ei holl eiddo i Isaac oedd yn cael mwynhau ei bresenol- deb a'i gariad gartref; a gwasgarwyd yr Iuddewon at oludoedd daearol yny gwahanol wledydd, fel yr antbnwyd meibion Ceturah ymaith, heb ond ychydig roddion. Ónd gellid meddwl fod yr ysgrythyr yn dal drws agored o'u blaen hwythau, i ddychwelyd i feddiant o holl freint- iau y teulu a holl gyfoeth y Tad, "Canys i chwi y mae yr addewid, ac i'ch plant, ac i bawb yn mhell, cynifer ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni ato." Ar ei ymadawiad gynt â'r deml am y waith olaf, fe roddodd yr Iesu le i'r Iuddewon i ddysgwyl cael ei ffair drachefn trwy iddynt ddyfod i fyny âg un amod fawr, "Wele, yr ydys yn gad- ael eich ty i chwi yn anghyfanedd, canys meddaf i chwi, ni'm gwelwch ar ol hyn, hyd oni ddywedoch, 'Bendigedig y w yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.'" Nid oedd yn cefnu arnynt am byth, ond "hyd oni" fuasent yn meddu calon hawddgar a da i'w roesawu—buasai ef yn barod i ddyfod pan fuasent hwy yn barod i dderbyn. Yr anhawsder mawr sydd ar ffordd adferiad y genedl ydyw ei chael i gydymffurfio â'r amod uchod. Er mai dull y byd hwn ydy w troi mewn rhyw gylch o golii, a cheisio, a chael, anhawdd ydyw dwyn yr Iuddew i deimio ei goìled, fel ag i geisio, hyd hes y byddo yn cael. Y rhag- fara a'i cauodd allan o deyrnas yr efengyl sydd yn ei gadw allan o houi IÌHAGm, 1882. ' Q 1