Skip to main content

Y DYSGEDYDD: AR HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." f (Èto-ehuoog a'r §httm ffgmtllẃfaol. Pan yn astudio y cynllun apostolaidd o lywodraeth eglwysig, y mae yn bwysig i ni dynu y llinell wahaniaethol rhwng yr hanfodol a'r aragylchiadol. Ar gychwyniad cyntaf Cristionogaeth, naturiol dysgwyl am bethau eithriadol, pethau nad oedd angen am dauynt wedi i'r efengyl ddechreu cymeryd gafael yn meddwl y byd, ac i'w hegwydd- orion gael amser i gario eu dylanwad naturiol ar gymeriadau y rhai a'i proífesent. Ceir y llinell hon o wahaniaeth yn cael ei chydnabod mewn cysylltiad â'r efengyl mewn ystyr athrawiaethol. Perthyna iddi athrawiaethau sydd yn hanfodol, athrawiaethau ag y byddai gwadiad o honynt yn wadiad o'r efengyl ei hunan. Ond ceir pethau eraill nad ydyw golygiad dyn am danynt yn penderfynu dim ar ei berthynas â'r iachawdwriaeth a ddadguddir yn y Beibl. Nid ydyw o bwys pa olyg- iad gymer dyn am y chwe' diwrnod yn Genesis, pa un ai yn llythyr- enol neu yn gyfnodol y bydd iddo eu cymeryd; ni bydd i hyny eífeithio dim ar ei gadwedigaeth, ond y mae ei fywyd tragwyddol yn gorphwys ar y golygiad a ffurfir ganddo am Berson Crist a'i waith cyfryngoL FeÜy, perthynai i'r eglwys yn y cyfnod apostolaidd rai pethau amgylchiadol, yn codi o neillduolrwydd yr amseroedd; pethau ag y darfu iddi ei gollwng wedi cyrhaedd cyfnod perffeithiach. O'r ochr arall, y mae perygl i ni wrth wneud y gwahaniaeth hwn, fyned, fel y mae llawer, i gredu mai amgylchiadol ac eithriadol ydoedd pob peth yn y cyfnod apostolaidd, ac fod ffurf allanol yr eglwys Gristionogol yn dibynu, nid ar egwyddorion sefydlog, ond ar nodwedd yr oes a natur yr amgylchiadau. Yn yr anerchiad a draddododd y Parch. Gr. Parry, Aberystwyth, yn Nghymdeithasfa Dowlais, dywed nad oes dim yn yr Actau a'r Epistolau yn penderfynu ffurflywodraeth yr eglwys Grist- ionogol. Nid yw yn hòni fod tir ysgrythyrol i'r gyfundrefn Fethodist- aidd, ac y mae yn tueddu i gondemnio y sawl a hònant fod y fath beth yn bod ag u Ecclesiastical Polity " yn y Testament Newydd, a dywed yn eglur ddigon fod llwyddiant dyfodol Methodistiaeth yn dibynu ar feddu digon o ystwythder i ymostwng i amgylchiadau yr amseroedd. Nid ydym yn gallu cydsynio â'r golygiad hwn, oblegid y mae yn arwain i'r penrhyddid mwyaf peryglus. Os mai mater o opiniwn dynol, pa ffurf sydd oreu i gyfarfod amgylchiadau y gwahanol oesoedd ydyw ffurflywodraeth eglwysig, yna nid oes genym un sicrwydd o gwbl pa ffurf a gymer, oblegid nid ydyw pawb yn agos o'r unfarn beth sydd oreu i ateb gofynion yr oes. Nid ydyw y ffurf Babyddol ei hunan ond tyfiant graddol i gyfarfod amgylchiadau yr amseroedd, ac yn ol Tachwedd, 1882. 11