Skip to main content

Y ÜYURÖYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." -♦*♦♦♦- atyarto OSarrett* GAN Y PARCH. JOHN THOMÜ, D.D., LIVERPOOL. Dyma enw sydd yn àdnabyddus i lawer na welsant eríoed wyneb y gwr. Gweinidog parchus a phoblogaidd gyda'r Wesleyaid ydyw. Mae yn ad- nabyddus iawn fel dirwestwr; ac am yr ugain mlynedd diweddaf, nid oes yr un gweinidog yn Lloegr, perthynol i unrhyw enwad, wedi cymeryd rhan mor amlwg ag y mae efe wedi ei gymeryd gydag achos sobrwydd yn mhob gwedd arno. Mae trueni ein gwlad trwy anghymedroldeb, a'r drygau cysylltiedig âg ef, wedi meddianu ei holl enaid, fel y mae yn barod i dreulio ac ymdreulio wrth geisio gwaredu y rhai a lusgir i angeu. Ni cliyfrifir ef yn ddyn mawr, ofclegid, mae yn debyg, ei fod yn ddyn ymarferol; a rhaid iddo fyned heb y clod o fod yn feddyliwr dwfn am ei fod mor syml. Cyd- nabyddir ei fod yn ddyn da, gweithgar, difrifol; ond rhaid cadw yr ymad- roddion pendefigol, meddylgar, athrylithgar, a dwfh-dreiddiol, i'w cysylltu wrth enwau y rhai sydd yn rhy feudwyaidd i gymeryd sylẁ o ddygwydd- iadau bychain beunyddiol, neu i osod eu llaw ar ddim sydd ymarferol. Ond dyn ymarferol ydyw Charles Garrett wedi bod; er fod ei feddwl hefyd wedi bod ar ei lawn waith yn dychymygu cynlluniau newyddion i ddaioni. Mae eto yn anterth ei ddydd, a chanddo rai blynyddau, fel y gallem farnu, cyn y gwel ei 60 oed. Eleni etholwyd ef yn Llywydd Cynadledd y Wesleyaid, yr anrhydedd uwchaf a allasai y Cyfundeb roddi arno, ac yn ddiau yr oedd efe yn haeddu gwneuthur o honynt hyn iddo. Er fy mod wedi byw flynyddoedd yn yr un dref ag ef,%c wedi cyfarfod lawer gwaith ar yr un esgynlawr ag ef yn nglŷn â gwahanol achosion; oto nid oeddwn erioed wedi cael cyfle i'w glywed yn pregethu hyd yr haf hwn. Erbyn i mi gyrhaedd i Matlock yn nechreu Awst, gwelwn hysbysleni allan fod capel newydd y Wesleyaid yn y lle i gael ei agor, ac yn mysg enwau eraill a ddysgwylid, gwelwn enw ein cydwladwr poblogaidd Richard Roberts, ac enw Charles Garrett, a phenderfynais yn y fan y mynwn glywed y ddau. * Ni chaf yma gyfeirio at bregeth Mr. Roberts, yn ychwaneg na dweyd ei bod yn bregeth goeth, dyner, ac efengylaidd, yn cael ei thraddodi* gydag yni a gwres, ac yn dwyn llawer o neillduolion y pulpud Cymreig. Yn mhen yr wythnos yr oedd Charles Garrett yn yr un lle. Tynodd ei enw, a'r ffaith ei fod yn Llywydd y Cyfundeb, dyrfa fawr yn nghyd. Daeth i'r platform, allan o ryw festri fechan o'r neilldu yno, yn hollol ddiseremoni. Edrychai mor gartrefol a phe buasai wedi bod yno ganwaith, er mai hòno oedd y waith gyntaf iddo. Trefnai y gynulleidfa, a galwai ar y rhai a welai yn sefyll i ddyfod yn mlaen lle yr oedd mwy o le, ac nid ofnai mewn un modd iddynt i halogi yr allor. Yr oedd yn amlwg arno ei fod wedi dyfod yno i wneud gwaith, ac yr oedd yn barod yn yr ysbryd ato. Canai mor galonog, a thaflai ei enaid mor llwyr i byny, a phe buasai Hydref, 1882. Fl