Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." ♦ »•■» &trgofíon am £f)oma8 Jonea. GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. NíD oes dim yn yr enw i dynu sylw. Nid yw ond syml a chyffredin. Mae yn ein gwlad ganoedd o'r un enw, y rhai nis gellir eu gwahaniaethu oddiwrth eraill heb eu cysylltu â lle neu deulu; ond gosododd un Thomas Jones y fath arbenigrwydd ar yr enw, fel y mae mor adnabyddus i filoedd yn Lloegr a Chymru a phe na buasai neb ond efe yn dwyn yr enw hwnw. Ad- nabyddid ef unwaith, dros ychydig, mewn cylch cyfyng, fel "Jones Bryn." Daeth wedi hyny yn adnabyddus mewn cylch eangach, fel " Jones Her- mon." Ymgododd wedi hyny i gyhoeddusrwydd, fel y daeth yn hysbys trwy Gymru oll fel " Jones Treforris;" ond am y pum' mlynedd ar hugain diweddaf, collodd ei enw ei gysylltiad â lle agos yn llwyr, ac adnabyddid ef wrth yr enw syml Thomas Jones ; ac yr oedd yn fwy adnabyddus wrth yr enw hwnw na neb arall yn ei oes oedd yn ei ddwyn. Dichon mai y cyhoeddusrwydd uchaf y gall dyn ei gyrhaedd ydyw, ei fod yn cael ei ad- nabod wrth ei enw syml. Felly yr adnabyddir ein prif ddynion yn y senedd ac yn y pulpud. Gwyr pawb pwy ydyw John Elias, a rhodres i gyd ydyw dweyd Mr. Elias. Mae llawer Mr. Elias, ond un John Elias fu erioed yn Nghymru. Nid oes eisieu gofyn pwy yw Christmas Evans, ond byddai dweyd Mr. Evans yn annaturiol. Mae rhywbeth yn berseiniol i mi yn y fath enwau, a mursenaidd ydyw rhoddi Mr. o'u blaen, ac nid rhaid eu cysylltu â lle. Yr unig eithriad yn mysg enwogion y pulpud yn Nghymru ydyw Williams o'r Wern. Trwy ei hir gysylltiad â'r Wern, daeth y lle rywfodd yn rhan o'i enw. Ac yn mysg y dyrfa urddasol a roddodd arben- igrwydd ar enwau dinod, saif Thomas JoNES. Yr oedd Thomas Jones, mewn llawer ystyr, yn un o'r dynion mwyaf nodedig a gododd erioed o'n cenedl. Un o wir feibion athrylith ydoedd. Cychwynodd o ddinodedd hollol. Ymlaàdodd yn galed âg anfanteision ac anghyfleusderau boreu oes. Mae ei hanes yn rhyfeddach nag un ffug- chwedl, a throadau hynod ei fywyd yn profi ei fod mewn modd arbenig yn blentyn Rhagluniaeth. Gweithiodd ei ffordd drwy anhawsderau dirif, yn nerth ei athrylith naturiol, a'i ymroddiad diorphwys. Gwyddai beth oedd cymeryd poen, ac nid oedd y fath air ac anmhosibl yn ei eirlyfr ef. Curiodd ei gnawd, asychodd ireidd-dra ei esgyrn, fel yr aeth i edrych yn hen, ac efe eto yn ieuanc, gan mor llwyr yr ymroddai i'w efrydiau. Ymgododd yn gyflym i gyhoeddusrwydd, a chyrhaeddodd binacl uchaf poblogrwydd, ac am fwy na chwarter canrif parhaodd yn un o bregethwyr enwocaf ei genedl a'i oes. Nid wyf yn amcanu ysgrifenu bywgraffiad iddo, ond yr wyf am osod ar gof a chadw fy adgofion personol am dano yn y'deng mlynedd cyntaf o'i oes weinidogaethol. Ni chyfeiriaf at ddim ond yr hyn a ddaeth dan fy sylw uniongyrchol, neu a fynegwyd i mi ganddo ef ei hun yn y blynyddau hyny, pan y teithiem yn nghyd. Awst, 1882. " z