Skip to main content

Y DY8GBDYDÜ: a'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." -♦*•*♦- 8 «üfe. (gan dewi mon, aberhonddu). "Pwy a genhedlodd ddefnynau y gwlith?"—Job. A YDYCH ch\û yn arfer cyfodi yn foreul Os nad ydych, cynghorwn chwi, ar unwaith i fabwysiadu yr arferiad; oblegid nid oes yr un awr o'r dydd pan y mae natur yn dadblygu ei swynion gyda'r fath berfFeithrwydd, ag ar adeg cyfodiad haul. Y mae iechyd yn yr awyr, bywyd yn nghangau y coed, ac yni adnewyddol yn nghân yr adar. Y mae rhodio'r meusydd dan yr amgylchiadau hyn, yn ddigpn i adloni y pruddglwyfus. "Hyny wna hen yn ieuanc, Hen wr llwyd yn haner llanc." Prif addurniadau y boreu yw y gwlith. Ymddangosant i'r llygad fel mil myrdd o emau tryloewon a hauwyd gan law anweledig yn ystod y nos, ac a adlewyrchant bob un ddelw yr haul sy'n araf ddringo'r fturfafen. Nid rhyfedd fod beirdd pob oes a gwlad yn gwirioni arnynt. Dyma fel y mae Milton yn Ngholl Gwynfa yn desgrifio ymweliad y dydd â'n rhieni cyntaf, cyn i bechod ddinystrio eu dedwyddwch:— " Now morn her rosy steps iu the eastern clime Advancing, sowed the earth with orient pearl, When Adam waked, so customed: for his sleep Was aery-light, from pure digestion bred, And temperate vapours bland, which the only sound Of leaves and fuming rills, Aurora's fan, Lightly dispersed, and the thrill matin song Of birds on every bough." Ac fel yma y cyfieithir y desgrifiad gan y Dr. Puw:— fi Y boreu weithion ar ei breilw rawd O ddwyr yn eddain, hauai ddaear las A gleinion, pan ddeffroai Addaf, wrth Ei arfer, can ysgafned oedd ei gwsg O ddyli iach ac araul darddiou, mal Y taenid gan ddain odwrdd chwyf y wawr Ar ddail a gofer, a ffrill ednaint ar Bob cainc mewn cân o bylgaint." Yn ngwledydd y dwyrain y mae y gwlith yn hynod o ran helaethrwydd a phrydferthwch, ac y mae yr ysgrifenwyr ysbrydoledig yn gwneud defnydd mynych o'r ffaith, fel y dengys yr enghreifftiau canlynol:—" Fy ymadrodd a ddyfera fel gwlith." "Fely syrth gwlith ar y ddaear." "Fel gwlith Hermon, ac fel gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion." " Ond ei ffafr Mai, 1882. N