Skip to main content

-'■ Y DYSGEDYDD: a'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." ->»««♦ ILltogtrtuattt meton îSgtogti. gan henry riohard, ysw., a.s. Anwyl Fechgyn Cymru,— Ceisiodd y Grolygydd genyf ysgrifenu atoch un o'r gyfres llythyrau a fwriada gyhoeddi yn y Dysgedydd, oddiwrth y rhai a eilw efe "Y Cymry mwyaf llwyddianus yn mhlith y Saeson." Awgrymais wrtho yn barchus fy ngwrthwynebiad i'r dynodiad cyffredinol hwn. Pa fodd bynag, dylai fod yn ddealladwy mai efe yn unig sydd gyfrifol am dano, oblegid cynwysa y fath hòniad na hoffaswn yn sicr ei wneud am danaf fy hun, sef fy mod i yn G-ymro llwyddianus. Ar hyn gall fod arnryw- iol opiniynau, yn ol y safon a gymerir i fesur llwyddiant. Bydded hyny fel y bo, awgrymodd y penawd i mi destun ar yr hwn yr hoffwn ysgrifenu atoch ychydig eiriau. Y mae amrywiol fath o lwyddiant mewn bywyd, rhai yn llawer teilyngach a mwy anrhydeddus nag eraill, ond y mae unrhyw lwydd- iant na sicrheir trwy foddion anghyfreithlon, yn well na methiant. Dylid dysgu pobl ieuainc fod bywyd diamcan ac anffrwythlon, nid yn unig yn druenus, ond hefyd yn bechadurus: fod gwastraffu bywyd yn crëu euogrwydd yn ogystal a chyflawni troseddau anfad. Pan enir dyn i'r byd—yn neillduol i'r fath fyd a'r un yr ydym ynddo yn y wlad a'r oes hon, daw i feddiant o ymddiriedaeth orbwysig. Y mae gan yr isaf mewn gallu a sefyllfa gymhwysderau a chyfleusderau y gall eu troi i ddefnydd, a'r rhai nas gall eu hesgeuluso ond er ei berygl. Diau fod dosbarth neillduol o bersonau a enir gyda math o ddinerthedd gwreidd- iol, yr hyn a'u gwna yn wrthddrychau tosturi yn hytrach sèn, er bodyn anhawdd peidio cymysgu dirmyg gyda'n cydymdeimlad—creaduriaid di-lain-cefn ydynt, math o lud-bysgod moesol {inoral jelly-fish) heb un asgwrn yn eu cyfansoddiad, am ba rai anhawdd yw peidio gofyn i'r Creawdwr y cwestiwn.a ofynwyd gan y Salmydd, mewn moment o ddigalondid amheuol, am yr holl hil ddynol, "Paham y creaist y dynion hyn yn ofer?" oblegid un o'r dirgeledigaethau mwyaf ydyw paham y dygir y cyfryw i fodolaeth o gwbl, oddieithr er rhoddi cyfleus- dra i'r rhai raid ddwyn eu gwendidau i ymarfer y grasau Cristionogol. Ond ceir dosbarth arall, nid diffyg gaÜu yn gymaint yw eu bai, ond diffyg ewyllys neu ystyriaeth briodol o gyfrifoldeb bodolaeth, oblegid dygwydda yn fynych fod dynion heb ganddynt ragorach, nac yn wir mor ragorol, cyneddfau naturiol na hwythau, yn myned heibio iddynt yn rhwydd ar y rhedegfa, a hyny am nad ydynt yn ewyllysio ymegnio enill Ebrill, 1882. ^ k